Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion lleol yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth teithio llesol

Mae ysgolion ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn cystadlu yn y Big Walk and Wheel - cystadleuaeth sy'n annog disgyblion i feicio, cerdded neu fynd ar sgwter i'r ysgol ac yn ôl.

Gwelwyd 13 o ysgolion yn cymryd rhan yn y Big Walk and Wheel, gan wneud dros 16,500 o deithiau.

Ysgol Gynradd Croesty oedd ar frig categori 'Ysgol Gynradd Fechan' y fwrdeistref sirol, gan orffen yn y safle 181 allan o 655 o gyfranogwyr cenedlaethol diolch i nifer trawiadol o 72.64 y cant o'r disgyblion yn cymryd rhan.

Canmolwyd Ysgol Gynradd Garth, Ysgol Babanod Bryntirion, Ysgol Gynradd Llangrallo, Ysgol Gynradd Cwmfelin, Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ac Ysgol Gynradd Porthcawl am eu hymdrechion hefyd.

Yn y categori 'Ysgol Gynradd Fawr', cymerodd 79.92 y cant o ddisgyblion Ysgol Gynradd Corneli ran. Roedd eu hymdrechion yn ddigon iddynt gyrraedd y 100 uchaf, gan orffen yn 98 allan o 813.

O drwch blewyn, fe fethodd Ysgol Gynradd Brynmelyn â chyrraedd y brig yn y fwrdeistref sirol, gan orffen 0.02 y cant yn unig y tu ôl i Ysgol Gynradd Corneli.

Cafwyd ymdrech ddisglair hefyd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Llidiard, Ysgol Gynradd Tremains, Ysgol Iau Llangewydd ac Ysgol Gynradd West Park dros bythefnos y gystadleuaeth.

Big Walk and Wheel yw'r her feic a sgwter rhwng ysgolion fwyaf yn y DU a drefnir gan yr elusen trafnidiaeth Sustrans, gyda chymorth lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n annog rhieni i adael eu ceir gartref ar gyfer y daith i'r ysgol.

Mae poblogrwydd sgwteri yn parhau i gynyddu'n lleol, gyda 22 y cant o deithiau'r Big Walk and Wheel eleni wedi cael eu gwneud ar sgwter, o'i gymharu â 13 y cant ar feic. Cerdded a chadair olwyn oedd y dull mwyaf poblogaidd o deithio gan 54 y cant.

Unwaith eto, mae'r Big Walk and Wheel wedi cael ymateb gwych gan ysgolion ledled y DU ac ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r gystadleuaeth hon yn ymwneud ag annog 'teithio llesol' sy'n iachach i'r plant a'u rhieni ac yn well i'r amgylchedd hefyd.

Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac rydym yn gobeithio y bydd 'teithiau llesol' yn parhau ar draws pob ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r haf a thu hwnt.

Roger Dutton, Swyddog Ysgolion Sustrans Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Roedd nifer o wobrau ar gael i ysgolion oedd yn cymryd rhan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys ymweliad gan Sioe Beic Mynydd Fusion Extreme, ymweliad gan reidiwr BMX dull rhydd Matti Hemmings neu ‘Scooterpods’ - lle lliwgar a thaclus i gadw sgwteri.

Chwilio A i Y