Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion lleol wedi’u heffeithio gan gynlluniau gweithredu diwydiannol

Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi cyhoeddi pedwar diwrnod o weithredu diwydiannol arfaethedig ar gyfer ei aelodau.  Os yw cynlluniau’n mynd rhagddynt, bydd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn cael eu heffeithio.

Mae streiciau wedi’u cynnig ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 1 Chwefror 2023
  • Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023
  • Dydd Mercher 15 Mawrth 2023
  • Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Bydd ysgolion yn seilio eu penderfyniad i agor neu gau ar eu cyd-destun unigol, lefelau goruchwylio staff ac asesiadau risg. 

Bydd pob ysgol yn anelu at hysbysu rhieni os yw’r ysgol yn cau, o leiaf dri diwrnod gwaith cyn pob un o'r diwrnodau a restrir uchod.  Fodd bynnag, bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros ar agor neu gau ar ddiwrnod y streic arfaethedig.

Bydd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael bocs bwyd diwrnod cyn y streic arfaethedig os yw’r ysgol yn penderfynu cau ymlaen llaw.  Os yw’r pennaeth yn penderfynu cau’r ysgol cyn amser cinio ar ddiwrnod y streic, bydd disgyblion cymwys yn cael bocs bwyd i fynd adref gyda nhw. 

Er y bydd trafnidiaeth ysgol yn parhau yn ôl yr arfer ar gyfer disgyblion cymwys (oni bai bod ysgol wedi penderfynu cau cyn diwrnod y gweithredu diwydiannol arfaethedig), dylai rhieni, gofalwyr neu oedolyn cyfrifol arall fod ar gael ar fyr rybudd i gasglu plant o ysgolion cynradd neu ysgolion anghenion ychwanegol.  Gall hyn fod oherwydd bydd angen cau ysgol neu grŵp blwyddyn oherwydd lefelau goruchwylio staff. 

Rydym yn gobeithio gwneud darpariaethau addas i bob disgybl a'u rhieni neu ofalwyr, fel y gallwn leihau unrhyw darfu posib o ganlyniad i'r streic. Byddwn hefyd yn hysbysu rhieni a gofalwyr am unrhyw ddatblygiadau drwy sianeli cyfathrebu arferol yr ysgolion.

Gallwn eich sicrhau y bydd ystyriaeth lawn yn cael ei gwneud cyn cau ysgol. Bydd yn cynnwys asesiad risg yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys niferoedd staff, goruchwyliaeth, cymarebau disgyblion - athrawon, yn ogystal â diogelwch.

Fel arfer, blaenoriaeth y broses gwneud penderfyniadau fydd llesiant y plant yn yr ysgol. Nhw yw ein prif bryder, a nhw fydd ein prif bryder bob amser. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y