Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Corneli yn fuddugol yn 'Stroliwch a Roliwch' 2023’!

Am yr eildro yn olynol, cafodd Ysgol Gynradd Corneli ei choroni’n gyntaf o blith ysgolion y fwrdeistref sirol, yn ogystal â phumed yng Nghymru gyfan, yng nghystadleuaeth ‘Stroliwch a Roliwch’ Sustrans.

Mae’r gystadleuaeth yn annog disgyblion i ddewis ffyrdd egnïol o deithio i’r ysgol dros gyfnod o bythefnos. 

Rhwng dydd Llun 20 Mawrth a dydd Gwener 31 Mawrth 2023, bu disgyblion Ysgol Gynradd Corneli yn cerdded, reidio, sgwtera a chanu eu ffordd i’r ysgol!  Gwelodd y rhieni aelodau staff yn cyfarfod y plant wrth y swyddog croesi cymunedol ac yn cyrraedd yr ysgol yn canu, ‘We’re walking, we’re wheeling, Corneli’s got the feeling!’

Dywedodd Lily-Mai, disgybl ym Mlwyddyn 4: “Mae Stroliwch a Roliwch yn annog pawb i fod yn iach. Mae ein cân mor gofiadwy - rydyn ni'n ei chanu bob dydd!’

Er bod 9 o'r 10 diwrnod wedi bod yn lawog, ni lwyddodd y tywydd i amharu ar ysbryd cymunedol yr ysgol, gyda niferoedd y plant a fu'n cymryd rhan yn cynyddu gyda phob diwrnod o’r digwyddiad!

Dywedodd Mrs Amanda Lewis, cydlynydd digwyddiadau ‘Stroliwch a Roliwch’ yr ysgol: “Rydyn ni mor falch o frwdfrydedd yr holl blant a’u teuluoedd a ddaeth allan bob dydd yn y glaw mawr. Mae deall pwysigrwydd bywyd egnïol yn sgil bywyd mor hanfodol.”

Cynlluniwyd gweithgareddau a gwersi yn ymwneud â dysgu gweithredol, cynhaliwyd cystadlaethau, ac fe gafwyd gwasanaeth dathlu i orffen. Gwisgodd yr ysgol gyfan, gan gynnwys y staff, ar gyfer y cystadlaethau ‘Gwisgo i Gael eich Gweld’ ac ‘Addurno Olwynion’, gyda’r Gymdeithas Rhieni a Chyfeillion hael yn cyfrannu arian ar gyfer gwobrau a danteithion.

Dywedodd Daisy, disgybl ym Mlwyddyn 4: ‘Rwyf wrth fy modd â Stroliwch a Roliwch. Dyma fy hoff adeg o’r flwyddyn!’

Wedi’u canmol am flaenoriaethu llesiant y plant mewn arolwg diweddar gan Estyn, mae’r staff wedi ymrwymo i hyrwyddo manteision bywyd egnïol ac iach i’r plant - sydd wedi cyfrannu at yr ysgol yn cipio ei phumed Gwobr Blatinwm Eco-Sgolion y tymor yr haf hwn! 

Waw! Hoffwn longyfarch y plant ar eu llwyddiant a’u dyfalbarhad yn nigwyddiad ‘Stroliwch a Roliwchl’ Sustrans!

Rwyf hefyd am ganmol staff Ysgol Gynradd Corneli am eu hymroddiad a’u hymrwymiad llwyr tuag at gefnogi llesiant eu dysgwyr.

Mae’r gwobrau y maent wedi eu hennill, sef y Wobr Blatinwm Eco a’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth ‘Stroliwch a Roliwch’ Sutrans’, ill dwy yn dangos hyn.

Ond, yn bwysicach fyth, yr adborth cadarnhaol gan y plant, yw’r dystiolaeth orau o waith caled a brwdfrydedd y staff.

Da iawn, Ysgol Gynradd Corneli! Daliwch ati gyda'r gwaith arbennig!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y