Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Brynmenyn yn disgleirio mewn arolygiad Estyn

Mewn arolygiad gan Estyn yn ddiweddar, gwelwyd bod Ysgol Gynradd Brynmenyn yn llwyddo i helpu ei dysgwyr i ddatblygu.

Yn un o bedair ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a arolygwyd rhwng tymor yr Haf a’r Hydref 2022, ymwelodd Estyn ag Ysgol Gynradd Brynmenyn ym mis Hydref 2022, dan drefniadau arolygu newydd sydd yn cefnogi’r gwaith adnewyddu a diwygio mewn addysg yng Nghymru.

Yn yr adroddiad arolygu newydd, manylir ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio’r graddau crynodol a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

Mae fformat adrodd presennol Estyn yn defnyddio’r categorïau hyn wrth farnu ysgol:

  • Dim gweithgarwch dilynol
  • Adolygiad gan Estyn
  • Angen gwelliant sylweddol
  • Angen mesurau arbennig

Roedd arolygwyr Estyn yn fodlon bod yr ysgol yn gwneud cynnydd digonol, ac o’r farn ‘nad oes angen unrhyw ‘weithgarwch dilynol’ ar Ysgol Gynradd Brynmenyn.

Ymhlith yr argymhellion i’r ysgol barhau i geisio sicrhau llwyddiant oedd gwella medrau dysgwyr o ran siarad Cymraeg, a darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddod yn ddysgwyr annibynnol.

Oherwydd pandemig Covid-19, eithriwyd pob ysgol o arolygiadau Estyn am gyfnod o ddwy flynedd – o fis Mawrth 2020 hyd fis Chwefror 2022.

Yn y cyfamser, mae Estyn wedi datblygu ei gweithdrefnau arolygu a chynhaliwyd peilot ar gyfer y dull newydd hwn yn nhymor y Gwanwyn a’r Haf, 2022.

Yr ydym yn hynod falch o Ysgol Gynradd Brynmenyn wedi i Estyn nodi nad oes arni angen unrhyw weithgarwch dilynol. O ystyried yr heriau academaidd a phersonol yn sgil y pandemig, mae’r ysgol wedi gwneud yn eithriadol o dda i ddangos cynnydd ei dysgwyr.

Da iawn, Ysgol Gynradd Brynmenyn! Mae’r adroddiad arolygu yn dangos yn glir gwaith caled y staff a’r plant. Daliwch ati gyda’ch ymdrechion clodwiw!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y