Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn derbyn adroddiad Estyn rhagorol

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i beidio â chael unrhyw argymhellion ffurfiol yn dilyn Arolwg Estyn rhagorol sydd wedi golygu bod yr ysgol wedi cael cais i gyflwyno dwy astudiaeth achos am arferion effeithiol i’w rhannu ag eraill yn y sector.

Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Mawrth 2023 ac mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ymuno â grŵp bychan yn unig o ysgolion yng Nghymru sydd wedi derbyn adroddiad o’r safon hon.

Mae’r adroddiad yn amlygu bod ansawdd yr addysgu yn gyson uchel ledled yr ysgol wrth ganmol hefyd y berthynas waith glos a chefnogol rhwng disgyblion ac athrawon.

Rhywbeth cadarnhaol arall oedd bod gan dîm adweinyddol yr ysgol ddisgwyliadau uchel iawn o’r staff a disgyblion.  Nododd yr adroddiad bod hwn o gymorth wrth greu diwylliant Cymraeg cryf yn yr ysgol drwyddi draw.

Enwyd Meurig Jones, pennaeth yr ysgol, yn ‘Bennaeth y Flwyddyn’ yn y Gwobrau Addysg Cymru yn ddiweddar a derbyniodd y wobr arian yng Ngwobrau Addysg Pearson UK.  Disgrifiodd yr arolygwr Meurig fel “arweinydd ysbrydoledig a diymhongar sy’n uchel ei barch ymysg y staff a chymuned ehangach yr ysgol.”

Roedd yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4 ac yn y chweched dosbarth yn yr ysgol sy’n creu llawer o gyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a diwylliannol wedi creu argraff ar yr arolygwyr hefyd.

Canmolwyd yr ysgol am y cymorth rhagorol mae’n ei ddarparu i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae’r adroddiad yn nodi bod staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn teilwra eu darpariaeth yn ofalus i sicrhau eu bod yn cyflawni hyd eithaf eu gallu.

Dywedodd Meurig Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd: Mae’n fraint aruthrol bod yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i dderbyn adroddiad Estyn heb unrhyw argymhellion penodol.

“Mae pawb yn yr ysgol yn frwd dros y diwylliant a’r iaith Gymraeg felly mae’n werth chweil gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

“Ni fyddai arolwg o’r safon hon wedi bod yn bosibl heb gymorth ein staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr.”

Hoffwn longyfarch holl staff, disgyblion a llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ar dderbyn adroddiad o’r radd uchaf.

Mae’n wych dathlu llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol ac mae’n amlwg bod yr ysgol yn darparu amgylchedd cadarnhaol i ddisgyblion ffynnu’n academaidd a datblygu’n unigolion cyflawn.

Mae lefel yr uchelgais yn yr ysgol yn amlwg iawn ac rwy’n sicr y bydd yr ysgol yn parhau i ddatblygu’r gwaith gwych sydd eisoes yn bodoli a fydd yn chwarae rhan allweddol i gynorthwyo cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru gyfan.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y