Ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gymeradwyo ar gyfer cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Coety
Poster information
Posted on: Dydd Iau 03 Tachwedd 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Coety.
Byddai'r cynnig yn golygu y byddai capasiti Ysgol Gynradd Coety'n cynyddu o 420 i 525 o leoedd ar gyfer disgyblion rhwng pedair ac un ar ddeg mlwydd oed.
Er mwyn mynd i'r afael â'r galw am leoedd yn Ysgol Gynradd Coety, lansiwyd arfarniad opsiynau, a nodwyd bod angen cynyddu darpariaeth yr ysgol. Arweiniodd hyn at nodi opsiwn dewisol ar ffurf estyniad dau lawr, a fyddai'n cynnwys pedair ystafell ddosbarth.
Mae tai ychwanegol wedi eu hadeiladu ym Mharc Derwen, na gynlluniwyd fel rhan o’r datblygiad gwreiddiol, a bydd y cynlluniau hyn yn helpu i hwyluso'r cynnydd yn y galw.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell: "Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu ehangu Ysgol Gynradd Coety fel bod modd i fwy o blant fynychu'r ysgol sydd fwyaf lleol iddynt.
"Rydym wedi gweld ystâd Parc Derwen yn tyfu dros y blynyddoedd, ac mae'n bwysig bod yr addasiadau hyn yn cael eu gwneud i'r ysgol, er mwyn adlewyrchu'r twf yn yr ardal leol."