Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad arfaethedig i gynyddu treth gyngor ar eiddo gwag tymor hir

Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yr wythnos nesaf (15 Tachwedd) i drafod dechrau'r broses ymgynghori ynghylch cynyddu cost treth gyngor ar eiddo gwag tymor hir.

Bydd y cynnig yn cynorthwyo i ddefnyddio cartrefi fu'n wag unwaith eto er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy a diogel ac i gynorthwyo'r cyngor i wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Diffinnir eiddo gwag tymor hir fel annedd lle nad oes fawr ddim dodrefn ynddo ac nad oes neb wedi byw ynddo am gyfnod o flwyddyn o leiaf.

Pe byddent yn cael eu cymeradwyo, byddai'r cynlluniau ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol 2023-24, fydd yn rhoi cyfle i'r cyngor sicrhau bod trigolion yn ymwybodol o'r newid hwn.

Gall y Cyngor ysgrifennu at bob perchennog tŷ i'w cynghori ynghylch y newidiadau arfaethedig gan ddarparu cymaint o ragrybudd â phosib, unwaith y mae penderfyniad wedi ei wneud.

Mae'r data diweddaraf, ar Hydref 2022, yn dangos bod yna 701 eiddo gwag tymor hir yn y fwrdeistref sirol. Allan o'r cyfanswm uchod, mae 275 eiddo wedi bod yn wag ers dros bum mlynedd.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae gan yr awdurdod lleol hawl i gadw unrhyw gyllid ychwanegol a geir o weithredu'r premiwm. Anogir awdurdodau i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol i fodloni anghenion am dai lleol.

Cynigir y dylid cael cyfnod ymgynghori o 4 wythnos, fydd yn cynnwys y Cyngor yn ysgrifennu'n uniongyrchol at berchennog pob eiddo gwag yn gofyn am adborth.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet maes o law.

Chwilio A i Y