Ymgynghoriad ar y gweill ar safonau diogelu cenedlaethol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Mai 2022
Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar safonau hyfforddiant diogelu cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.
Wedi’u datblygu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, mae’r safonau drafft wedi’u dylunio i sicrhau bod hyfforddiant diogelu cyson ac o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd ei angen yng Nghymru.
Nod yr ymgynghoriad hefyd yw sicrhau bod sefydliadau yn gallu ymgorffori safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a gweithdrefnau diogelu, bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau perthnasol, polisïau a gweithdrefnau, a bod ganddyn nhw fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru a’u bod mewn cydymffurfiaeth â hwy.
Diben y Safonau Diogelu Cenedlaethol yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn derbyn hyfforddiant rheolaidd ac o ansawdd dda sy’n berthnasol i’w rôl a chyfrifoldebau, a’n bod, fel ymarferwyr, yn gallu diogelu pobl hyd eithaf ein gallu.
Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben, mae angen i ni glywed gan ystod mor eang â phosib o ymarferwyr a sefydliadau, a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad.
Nikki Kingham, Rheolwr Busnes ym Mwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
Gallwch ddarllen y ddogfen safonau hyfforddiant drafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru a dweud eich dweud drwy gwblhau arolwg ar-lein cyn y dyddiad cau ar 17 Mehefin 2022 a’i anfon drwy e-bost at consultations@socialcare.wales