Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymarferydd arweiniol Cyfiawnder Ieuenctid yn ennill cymeradwyaeth uchel ei bri ar ffurf gwobr sy’n cyfateb i’r ‘Oscars’ yn y sector

Mae’r effaith gadarnhaol a gaiff Debbie Jones, Ymarferydd Arweiniol Trawma yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn treiddio trwy fywydau plant di-rif, yn ogystal â bywydau ei chydweithwyr – rhodd a gydnabuwyd ar ffurf cymeradwyaeth uchel ei bri gan Wobrau Ymddiriedolaeth Butler, a ddisgrifir fel yr ‘Oscars’ yn y sector gwarchodol a chyfiawnder cymunedol.

Enwebwyd Debbie gan Christa Bonham Griffiths, Rheolwr Gwasanaethau yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd yn casglu ei chymeradwyaeth yn Seremoni Gwobrau Ymddiriedolaeth Butler a gynhelir gan y Noddwr Brenhinol, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, ym mis Mawrth 2024.

Mae Debbie wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu ymarfer trawma ledled rhanbarth Cwm Taf – yn cynnwys creu dull sgrinio trawma, sicrhau bod plant yn cael cymorth amserol ac yn cael eu clywed, a datblygu system ryngweithiol a dwyieithog o’r enw ‘Fy Llais’, sy’n galluogi’r gwasanaeth i gyfleu llais plant yn eu geiriau eu hunain.

Nid yw datblygiadau arloesol yr ymarferydd arweiniol trawma yn dod i ben yn y fan hon – mae system Jamboard, a gyflwynwyd gan Debbie, yn galluogi gweithwyr proffesiynol o amryfal asiantaethau i greu cynllun sy’n ymateb i anghenion y plentyn ac sy’n osgoi ailadrodd, oherwydd gall gweithwyr flaenoriaethu pwy yw’r unigolyn gorau i weithio gyda’r plentyn, o safbwynt pa gam y mae wedi’i gyrraedd yn ei adferiad ar ôl trawma.

Yn olaf, fe wnaeth Debbie ei gwneud yn bosibl i’r gwasanaeth ymgeisio’n llwyddiannus am Gyllid Gwaddol Ieuenctid ar gyfer y fenter ‘Meithrin Perthnasoedd gyda’n Gilydd’. Mae’r prosiect hwn – y cyntaf o’i fath ar y raddfa hon – yn gwerthuso sut y gall gwasanaethau sy’n defnyddio’r Model Adfer Wedi Trawma fod o fudd i’r plant hynny y mae trawma’n effeithio arnynt. Mae’r fenter Meithrin Perthnasoedd gyda’n Gilydd yn un o blith pedair o fentrau’n unig a ariannwyd trwy gyfrwng y Gronfa Gwaddol Ieuenctid yn ystod y rownd Cyllid ar gyfer Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma, a ariennir ar y cyd gan y Swyddfa Gartref.  Dyma a ddywedodd Christa am ei chydweithiwr: 

Mae Deb yn wych am weithio mewn tîm – dw i erioed wedi cael y pleser o reoli neb cystal â hi. Mae hi wedi helpu aelodau’r tîm i ystyried syniadau ar gyfer ennyn cydweithrediad plant cymhleth ac mae hi wastad yn fodlon rhannu ymarfer cadarnhaol a chynnwys pobl eraill.

Mae hi’n gwbl anhunanol yn ei gwaith, mae hi’n mynd y tu hwnt i’w rôl a’i chyfrifoldebau, mae hi’n gweld cryfderau pobl eraill, mae hi’n fodlon mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau a dal ati i roi cynnig ar bethau dro ar ôl tro, a chasglu’r darnau pan fo angen, ac yn amlwg mae pawb a ddaw i gysylltiad â hi yn dotio arni.

Yn ystod ugain mlynedd o reoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, dw i erioed wedi cyfarfod ag unigolyn ac ymarferydd mor anhygoel… a phan ddaw hi’n fater o ddelio â gwaith cymhleth yn ymwneud â Chyfiawnder Ieuenctid, mae hi wastad yn gadarnhaol.

Pan ofynnwyd i Debbie beth yw’r cymhelliant sydd wrth wraidd ei rôl arwyddocaol, dyma a ddywedodd:

Fel arweinydd trawma yng Ngwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, mae fy nghymhelliant wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn ymrwymiad i gael effaith ystyrlon ar fywydau plant sydd wedi mynd trwy drawma.

Rydw i’n danbaid dros helpu plant i ddod trwy’r heriau cymhleth sy’n gysylltiedig â thrawma. Mae gweld gwytnwch plant a’u potensial i newid mewn ffordd gadarnhaol yn eithriadol o ysbrydoledig. Rydw i’n credu yn eu gallu i oresgyn adfyd, ac mae fy rôl yn fy ngalluogi i chwarae rhan yn eu gwellhad a’u hadferiad.

Yn olaf, mae fy nghymhelliant yn ymestyn i’r effaith ehangach ar lesiant y gymuned. Yn ogystal â dylanwadu ar fywydau unigolion, rydw i’n credu bod fy rôl yn cynnwys cyfrannu at iechyd cyffredinol y gymuned. Trwy gynorthwyo pobl ifanc i oresgyn trawma, credaf ein bod yn meithrin cymuned gadarnhaol a chadarn.

Mae ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Butler yn anrhydedd enfawr. Nid yn unig mae’r wobr yn cynrychioli cyflawniad personol, ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gwaith adsefydlu a gofal sy’n ystyriol o drawma… Mae ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Butler yn garreg filltir yn fy ngyrfa, ond mae hefyd yn cydnabod gwaith tîm Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn ei gyfanrwydd, sy’n dyfalbarhau i weithio er lles pobl sydd mewn lleoliadau gwarchodol a chyfiawnder cymunedol.

Medd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg:

Fel awdurdod lleol, rydym mor ffodus bod Debbie Jones yn gweithio gyda’n plant, gan ymdrechu i sicrhau’r gorau iddyn nhw a gweithredu fel eu hyrwyddwr.

Diolch o galon, Debbie. Rydym mor eithriadol o ddiolchgar am eich ymdrechion – rydych yn llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Ymddiriedolaeth Butler.

Chwilio A i Y