Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Prif Weinidog yn ymuno ag arweinydd y cyngor i dalu teyrnged i ‘hyrwyddwr cymunedol’

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd y cyngor, Huw David, wedi talu teyrnged i David White, cyn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fu farw’n ddiweddar yn dilyn salwch byr.

Yn ogystal â threulio bron i 30 mlynedd yn gweithio i’r gwasanaethau cymdeithasol, bu David yn gadeirydd cangen Dinas a Sir Abertawe o Unison, a bu mewn sawl swydd gymunedol leol o lywodraethwr ysgol Pont y Crychydd, ymddiriedolwr Canolfan Gymunedol Ward y Gorllewin, ac aelod o fwrdd BAVO, Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd yn hynod weithredol mewn gwleidyddiaeth leol, yn aelod o gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2015-16. Yn 2012, daeth yn gynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynrychioli ward Castellnewydd ar y pryd.

P’un ai ei fod yn fanciau bwyd neu foreau coffi, gwerthu llyfrau ar gyfer elusen neu wisgo fel Siôn Corn ar gyfer digwyddiadau’r Nadolig, roedd David bob amser yn gweithio i hyrwyddo achosion da lleol yn ei amser sbâr, gan dreulio’i fywyd yn codi arian ar gyfer nifer o elusennau. Roedd yn unigolyn anhunanol oedd wedi ymroi ei fywyd cyfan i gynorthwyo eraill, hyrwyddwr cymunedol nad oedd fyth yn chwilio am gydnabyddiaeth am ei ymdrechion.

Serch hynny, cafodd ei ymrwymiad i’r gymuned leol oedd yn golygu cymaint iddo ei gydnabod gyda gwobr Ymddiriedolawr Unsung Hero BAVO, lle cafodd ei ddisgrifio fel ‘gweithredwr cymunedol drwyddo draw, bob amser yn mynd yr ail filltir i gynorthwyo pobl yr ardal. Ychydig cyn iddo farw, cafodd David ei gydnabod gyda Gwobr Dinasyddiaeth Faerol. Disgrifiodd ei ffurflen enwebu ef fel un oedd wedi ‘...cyfrannu llawer i dref a sir Pen-y-bont ar Ogwr drwy ei waith mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â’i wasanaeth gwirfoddol.

Nodwyd hefyd ‘Er gwaethaf ei salwch a’r heriau mae’n ei wynebu’n ddyddiol, mae David yn parhau i feddwl am eraill, ac i wasanaethu lle bynnag a phryd bynnag mae’n gallu. Mae’n parhau i weithio’n ddiflino dros eraill yn ei gapasiti gwirfoddol. Mae'r enwebiad yn cloi drwy ddweud ‘Byddai’n anodd dod o hyd i ddyn mwy caredig a haeddiannol’. Credaf fod hyn yn deyrnged deilwng i’r math o ddyn uchel ei barch oedd David, ac rwy’n gobeithio bod gwybod ei fod mor uchel ei barch yn rhywfaint o gysur i wraig David, Jacquie, ei blant, a’i wyrion a’i wyresau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David

Talodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, deyrnged i David hefyd. Dywedodd: “Bu i David White ymroi ei fywyd cyfan i gynorthwyo eraill, gyda gyrfa hir mewn gwasanaethau cymdeithasol, o fewn yr undeb, fel cynghorydd tref a sir, ac fe gwirfoddolwr yn ei gymuned leol.

 

“Roedd yn uchel ei barch ac yn cael ei adnabod fel rhywun fyddai’n mynd yr ail filltir i gynorthwyo eraill, ac rydym yn meddwl am ei deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Chwilio A i Y