Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y ganolfan ailgylchu gymunedol yn y Pîl yn agor yn swyddogol

Cynhaliwyd agoriad swyddogol ar gyfer y ganolfan ailgylchu gymunedol newydd yn y Pîl yn gynharach yn yr wythnos a gwahoddwyd nifer o bobl amlwg ynghyd â Phencampwyr Amgylcheddol Lleol ac enillwyr gwobrau Aoife Dean a Kylan Williams i archwilio'r cyfleuster modern hwn a fydd o fudd i'r fwrdeistref sirol am genedlaethau i ddod.

Estynnodd staff y cyngor a chontractwyr groeso i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David, y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet Dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd y Cynghorydd John Spanswick, y Dirprwy Faer y Cynghorydd Heather Griffiths ac Uchel Siryf Morgannwg Ganol Dr Richard Lewis MBE DL i agoriad swyddogol y safle ar Ystâd Ddiwydiannol Village Farm.

Ynghyd â chynrychiolwyr o wardiau y Pîl, Porthcawl a Chorneli, a chynghorwyr o Gynghorau Cymuned y Pîl a Chefn Cribwr, cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd ar daith dywys o'r cyfleuster ailgylchu newydd ei sefydlu oedd yn cael ei harwain gan gynrychiolwyr o Plan B Management Solutions, y contractwr rheoli gwastraff ac ailgylchu dros dro sydd wedi'u penodi'n ddiweddar.

Yn ystod y daith, rhoddwyd gwybod i'r ymwelwyr bod y cyfleuster, sy'n gonglfaen i'r diwydiant, wedi cynyddu capasiti ailgylchu deunyddiau yn y fwrdeistref sirol yn sylweddol, gan brosesu 500 tunnell o ddeunyddiau ers iddo agor ym mis Mawrth 2024. Mae'r safle wedi'i chynllunio er mwyn caniatáu llif cyson o draffig, gyda chapasiti ar gyfer 70 car ar unrhyw amser, gan alluogi i wastraff tŷ ac eitemau ailgylchu gael eu gwaredu'n gyflym.

Ymunodd disgyblion o ysgolion cynradd lleol ac aelodau o Ysgol Eco Ysgol Gyfun Cynffig hefyd yn y daith ymweliad, gan orffen gyda dadorchuddiad seremonïol o'r tri phoster arobryn a gynlluniwyd gan ddisgyblion ysgol gynradd Afon y Felin, y Pîl a Mynydd Cynffig fel rhan o gystadleuaeth a osodwyd yn ystod gweithdai ailgylchu a gynhaliwyd gyda Thîm Addysg a Gorfodaeth y cyngor.

Dangoswyd y cynlluniau ddaeth i'r brig gan un o'r enillwyr, Hugo Houldcroft, disgybl yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig; ynddynt amlygwyd pwysigrwydd ailgylchu sbwriel a sut y gall leihau effeithiau newid hinsawdd. Bydd y posteri bywiog yn cael eu harddangos mewn man amlwg yn y ganolfan, fel atgof gweledol i atgoffa pawb o bwysigrwydd ailgylchu a gwarchod yr amgylchedd i genedlaethau'r dyfodol.

Fe wnaeth y disgyblion cynradd hefyd fynychu cyflwyniad rhyngweithiol ar y safle wedi'i gynnal gan ADA Recycling, lle gwnaethant arddangos amrywiol eitemau oedd wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu neu ddeunyddiau cynaliadwy. Yn ogystal, rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o'r tair canolfan ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, lle mae deunyddiau yn cael eu gollwng yno i gael eu hailgylchu a disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am bynciau megis lleihau gwastraff ac ailddefnyddio, gofalu am yr amgylchedd, a rhai o'r cyfreithiau ynghylch gwaredu gwastraff y ffordd gywir.

Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu ein gwesteion ac agor y ganolfan ailgylchu gymunedol yn swyddogol.

Mae'r ymweliad yn arwydd o bwysigrwydd yr ymdrech a wnaed ar y cyd rhyngom er mwyn hyrwyddo systemau rheoli gwastraff mewn modd cyfrifol ac adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y fwrdeistref sirol.

Rydym yn un o'r tri awdurdod lleol uchaf yng Nghymru oherwydd ein hymdrechion i ailgylchu, a diolch i'r gefnogaeth barhaus gan ein partneriaid, ein gwaith gydag ysgolion a chymunedau lleol ac ymdrechion preswylwyr lleol, gallwn obeithio creu newidiadau positif a all ond creu newid positif a fydd o fudd i'r genhedlaeth nesaf.

Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dros y ddeg i ugain mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid y ffordd rydyn ni'n ailgylchu yn y cyngor fwrdeistref, ac mae cyfraddau ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu cymunedol yn awr dros 90 y cant.

Gydag agor y ganolfan newydd heddiw gallwn ddathlu'r llwyddiant trawiadol hwn a pharhau i wella ar ein cyfraddau ailgylchu gwych.

Aelod Cabinet Dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y