Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cynnig o brydau ysgol am ddim wedi'i ymestyn bellach i ddisgyblion Meithrin Amser Llawn

Mae disgyblion meithrin amser llawn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys bellach i gael prydau ysgol am ddim, wrth i'r fenter Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol barhau i gael ei hehangu i gynnwys mwy fyth o ddysgwyr.

Yn flaenorol, daeth disgyblion Blwyddyn 3 yn gymwys ym mis Medi 2023, disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym mis Ebrill 2023 a disgyblion Derbyn ym mis Medi 2022.

Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, mae’r cynnig i fod i gael ei ymestyn ymhellach i gynnwys disgyblion Blwyddyn 4 ym mis Ebrill 2024, a disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 o fis Medi 2024 ymlaen.

Lansiwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i helpu teuluoedd i leddfu baich yr argyfwng costau byw ac mae mwy na 7700 o ddisgyblion bellach yn gymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwy’n falch o weld bod y fenter bwysig hon yn parhau i gael ei chyflwyno ar draws y fwrdeistref sirol, gyda mwy a mwy o ddisgyblion yn gymwys.

Gwyddom pa mor anodd yw hi ar deuluoedd ar hyn o bryd yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae prydau bwyd ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i deuluoedd, ac yn sicrhau pryd maethlon i helpu plant ganolbwyntio ar ddysgu.

Unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff ac ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cymorth parhaus, ac am eu gwaith caled yn cyflawni’r gwasanaeth hollbwysig hwn.

Dywedodd y Cyng. Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg:

Rydym eisiau atgoffa rhieni a gofalwyr pob disgybl cymwys nad oes angen cwblhau cais, gan y bydd pob dysgwr cymwys sy’n dewis cinio ysgol yn elwa’n awtomatig o’r cynnig yma.

Fodd bynnag, hoffai’r cyngor ailadrodd y dylai teuluoedd sy’n hawlio budd-daliadau fel cymhorthdal incwm, barhau i hawlio prydau ysgol am ddim i’w plentyn yn y ffordd arferol gan fod hyn yn helpu teuluoedd ac ysgolion lleol i gael cyllid ychwanegol gan y llywodraeth genedlaethol. Nid yw Prydau Ysgol Cynradd Cyffredinol yn effeithio o gwbl ar yr hawl yma i fudd-dal.

Mae Gwasanaeth Arlwyo'r awdurdod lleol yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer cogyddion ychwanegol, cogyddion cynorthwyol, a chynorthwywyr cegin wrth gefn, y bydd yn galw arnyn nhw yn ôl yr angen. Ewch i wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth am y rhain a chyfleoedd swyddi cyffrous eraill.

Chwilio A i Y