Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn ymrwymo i raglen ailwynebu priffordd gwerth £5m er gwaethaf y cynnydd mewn costau

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bydd gwaith ail-wynebu ar gyfer y rhwydwaith briffordd leol yn parhau yn ôl y bwriad, er gwaethaf y cynnydd chwyddiannol diweddar yng nghostau deunyddiau, llafur a pheiriannau.

Mae'r ymrwymiad yn dilyn pryderon a godwyd gan un o gontractwyr y cyngor, dros sawl cynnydd mewn cost wedi'u hachosi gan ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang fel cynnydd serth mewn costau olew a thanwydd.

Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu buddsoddi dros £5m i waith ail-wynebu priffyrdd yn ystod y contract penodol hwn, mae'r cynnydd yn dod i 8.93 y cant neu £446,500 ychwanegol.

Bydd swyddogion priffyrdd nawr yn ystyried sut gellir ad-drefnu'r gwaith arfaethedig wrth allu fforddio unrhyw gostau ychwanegol o fewn y gyllideb bresennol.

Bob blwyddyn, mae'r cyngor yn buddsoddi miliynau o bunnoedd i ail-wynebu, atgyweirio a chynnal y rhwydwaith briffordd leol, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth o hyd.

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn datblygu'r fwrdeistref sirol a sicrhau bod gan gymunedau fynediad at rwydwaith diogel o ffyrdd lleol, o safon, y gellir eu dibynnu arnynt.

Er ei fod yn hynod bryderus bod costau'r contract wedi codi oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni, rydym yn parhau i fod yn hyderus ac wedi ymrwymo i gynnal y rhwydwaith briffordd hyd gorau ein gallu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y