Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn parhau i fynd i'r afael ag eiddo gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Gyda llawer o adnoddau wedi’u buddsoddi mewn rhaglenni i adnewyddu ac adfywio eiddo gwag a rhai nad ydynt yn cael digon o ddefnydd yn y dref, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fynd i’r afael â’r mater o eiddo masnachol gwag gyda sawl strategaeth.

Mae amrywiaeth o adeiladau yng nghanol trefi ar draws y fwrdeistref sirol yn enghreifftiau gwych o brosiectau canol tref llwyddiannus. 

Dyfarnodd y cynllun Menter Treftadaeth Treflun, a oedd yn gweithredu rhwng 2002 a 2020, dros £5m i 66 eiddo i gefnogi ac ariannu gwaith adfer sylweddol.

Roedd y cynllun yn cefnogi adfywio Cynllun Elder Yard, 2 Caroline Street, yn ogystal â’r hen Dafarndy Victoria, sydd oll wedi’u lleoli yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Ym Mhorthcawl, rhoddodd yr un fenter fywyd newydd i'r adeilad Harlequin, yr adeiladau Jennings, yn ogystal â 37 The Esplande, a elwid gynt yn Apollo, sydd bron â chael ei gwblhau.

Rydym yn falch o ddweud bod gennym fusnesau llewyrchus yn gweithredu o bob un o'r cynlluniau hyn sydd wedi’u cwblhau, gyda buddsoddiad cyfalaf yn dod gan y cyngor, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Mae rhaglen arall gan y cyngor, Trawsnewid Trefi, yn gyfrifol am ariannu cynlluniau sy’n cynnwys 11 Nolton Street, hen adeilad McDonald’s ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr adeilad Family Value ym Maesteg ac, yn fwy diweddar, Marble Stake House yng Nghanolfan Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyfarnodd y rhaglen £2.275m mewn grant yn y tair blynedd diwethaf a bydd yn parhau i weithio gyda pherchnogion eiddo a busnesau, i gynnig cymorth a chyllid sylweddol i eiddo eraill ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg.

Mae gennym Gynllun Gweithredu ar Eiddo Gwag sy’n mynd i'r afael â’r eiddo mwy heriol a geir yn bennaf, ond nid yn unig, yn ein trefi – mae’n ystyried eiddo masnachol a phreswyl.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Wedi’i ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn mabwysiadu dull manwl o ddod o hyd i atebion i ddatblygu gwaith ar eiddo penodol.

Mae Gweithgor Eiddo Gwag hefyd yn archwilio ac yn cefnogi’r adeiladau mwyaf problemus – y rhai sydd angen dull gweithredu un cyngor, y ogystal ag ymrwymiad ariannol.

Yn ogystal â’r gwaith a grybwyllwyd eisoes, mae’r cyngor hefyd yn diweddaru ei arolwg o eglwysi a chapeli gwag sydd mewn perygl neu mewn risg o berygl, ac mae ganddo gynlluniau i adolygu’r holl eiddo gwag ar draws canol tref Pen-y-bont i ystyried cynnig ymgysylltiad a chymorth pwrpasol.

Ein nod yw gweithio gyda pherchnogion busnes ac adeiladau, gan gynnig cymaint o opsiynau a chymaint o gefnogaeth ag y gallwn. Mae nifer o eiddo a fu’n wag ers amser maith bellach wedi’u gwerthu i berchnogion newydd neu’n mynd ar werth. Mae gweithredu ffurfiol yn erbyn perchennog bob amser yn ddewis olaf.

Mae'n bwysig cofio nad oes ateb cyflym i fynd i’r afael â’r sefyllfa eiddo gwag yn ein trefi.

Mae adfer ac adfywio adeiladau yn broses hir sy’n cynnwys llawer o gymhlethdodau. Rydym yn gweld canlyniad yr adeilad wedi’i adnewyddu, ond yr hyn nad yw mor weladwy yw’r misoedd lawer o waith sydd wedi’i gyflawni hyd at y pwynt hwnnw.

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y