Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn derbyn diweddariad ar adfywiad canol y dref

Mae aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael diweddariad ynghylch sut mae'r Prif Gynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr 2021 yn dod yn ei flaen.

Wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyngor ar sut oedd prosiectau yn debygol o gael eu cyflawni o fewn oes y cynllun 10 mlynedd, amlinellodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, sut mae'r amrywiol brosiectau tymor byr a thymor hir sy'n rhan o'r prif gynllun yn canolbwyntio'n gadarn ar sicrhau adfywiad a buddsoddiad newydd i ganol y dref, a'u bod yn cael eu rheoli'n ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gwrdd â'r targed.

Gan siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Goode: "Mae'r prif gynllun yn gosod allan y cyfleoedd sydd o raddau, cymhlethdod a chost amrywiol, gyda'r cyfan ohonynt yn cyfrannu at adfywio mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai prosiectau sylweddol eisoes wedi cael eu cyflawni, a byddent yn cael eu cwblhau ymhell o fewn y cynllun 10 mlynedd presennol.

"Ym mis Mai eleni, bydd dau ddatblygiad mawr sydd wedi'u hamlygu o fewn y prif gynllun yn dechrau yn y dref. Bydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau gweithio ar gampws canol y dref newydd gwerth £70m yn Cheapside, a bydd Linc Cymru yn dechrau ar godi'r Ganolfan Llesiant Sunnyside newydd a'r 59 o dai fforddiadwy ar safle'r cyn Lysoedd Barn.

"Mae'r prosiectau hyn yn brif gatalyddion ar gyfer adfywio canol y dref, gan gynyddu'r nifer sy'n ymweld, cefnogi busnesau lleol, creu buddsoddiad newydd a chefnogi economi gymysg. Maent hefyd yn dangos y gwaith caled a'r amser mae wedi'i gymryd er mwyn i ddatblygiadau gwerth miliynau o bunnoedd o'r math yma ddwyn ffrwyth."

Clywodd yr Aelodau, ers i'r prif gynllun gael ei lansio, fod mwy na £770,000 o Gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei fuddsoddi er mwyn ehangu ac uwchraddio eiddo masnachol o fewn canol y dref, a dod â hwy yn ôl i ddefnydd busnes.

Mae'r buddsoddiad wedi cefnogi datblygiad economi min-nos ffyniannus, sydd yn ei dro wedi helpu canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu enw iddo'i hun am fod yn ganolfan ar gyfer bwytai, bistros a chaffis o'r safon uchaf.

Ynghylch y prosiectau eraill o fewn y prif gynllun, mae gwaith dichonolrwydd a chynllunio ar waith er mwyn creu ardal gaffis a diwylliant hyfyw newydd, gan sefydlu mynediad newydd, haws at orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu cysylltiadau teithio llesol newydd ar hyd a lled y dref a'r ardal gyfagos, llwybr treftadaeth tref newydd a mwy.

Mae cynllun gweithredu eiddo gwag wedi cael ei ddatblygu i ddelio gydag adeiladau gwag sy'n cael effaith niweidiol ar yr ardal gyfagos, ac mae gwaith adnewyddu yn digwydd ar hyn o bryd ar bedwar eiddo gwag sydd gyda'r mwyaf heriol o fewn canol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Goode: "Mae'n bwysig nodi bod y cyngor yn gyrru'r prif gynllun canol y dref yn ei flaen yn erbyn cefnlen o heriau ariannol ac economaidd hynod o sylweddol.

"Mae natur uchelgeisiol y cynllun yn ddibynnol gan mwyaf ar argaeledd ariannu gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat gyda'n partneriaid adfywio, sydd, yn yr achos hwn yn cynnwys tirfeddianwyr preifat, landlordiaid a busnesau lleol, yn ogystal â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, Network Rail, BT a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

"Gan na all y cyngor gyflawni yr un o amcanion y prif gynllun ar ei ben ei hun, mae rhan bwysig o'r cynllun yn parhau i ganolbwyntio ar sut mae gweithio mewn partneriaeth yn dal i fod yn hanfodol i'w lwyddiant.

"Fel pob rhan arall o'r DU, rydym yn gweld newidiadau mawr yn digwydd ar draws ein stryd fawr, a dyw canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddim yn eithriad i hyn.

"Fodd bynnag, rydym hefyd wedi sicrhau bod y prif gynllun ar gyfer canol y dref yn parhau i fod yn hyblyg, yn ogystal â bod yn gadarn, a bod y prosiectau niferus sydd oddi mewn i'r cynllun yn ddigon gwydn i gael eu hailasesu er mwyn adlewyrchu realiti amgylchedd sy'n newid.

"Dyma pam rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y prif gynllun yn fwy nag abl i gyflawni ei amcanion."

Chwilio A i Y