Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn derbyn cyllid i fynd i’r afael â’r broblem gwm cnoi ar strydoedd y fwrdeistref sirol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi’n cynllunio i fynd i’r afael â’r broblem gwm cnoi ar ein strydoedd lleol, wedi iddynt dderbyn grant gwerth dros £12,000 i ddatrys y broblem.

Mae’r awdurdod lleol yn un o 56 o gynghorau ar draws y DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Tasglu Gwm Cnoi, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, am gyllid i lanhau gwm cnoi oddi ar y strydoedd ac atal pobl rhag gwneud llanast pellach.

Cafodd Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi ei sefydlu gan Defra, a chaiff ei redeg gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy. Mae’r cynllun yn agored i gynghorau ledled y DU sy’n dymuno cael gwared ar gwm cnoi o’u hardaloedd lleol a buddsoddi i newid ymddygiad pobl yn yr hirdymor er mwyn atal gwm cnoi rhag cael ei daflu ar y stryd yn y lle cyntaf.

Ariennir y Tasglu gan brif weithgynhyrchwyr gwm cnoi, yn cynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda’r buddsoddiad wedi’i rannu dros gyfnod o bum mlynedd. Eleni, bydd y cynghorau llwyddiannus yn cael cyfanswm o dros £1.2 miliwn o gyllid.

Mae gwaith monitro a gwerthuso gan Behaviour Changeedi dangos bod yr ardaloedd a elwodd o'r cynllun y llynedd wedi parhau i weld cyfraddau is o daflu gwm cnoi hyd yn oed chwe mis wedi i’r gwaith glanhau orffen, ac wedi i adnoddau atal taflu sbwriel gael eu sefydlu.

Amcangyfrifir bod glanhau gwm cnoi yn costio oddeutu £7 miliwn y flwyddyn i gynghorau’r DU.

Mae taflu sbwriel yn bla yn ein cymunedau, mae’n difetha ein cefn gwlad, yn niweidiol i fywyd gwyllt, ac yn gwastraffu arian trethdalwyr oherwydd gwaith glanhau. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr gwm cnoi i fynd i’r afael â’r broblem. Yn dilyn llwyddiant rownd gyntaf y cynllun, bydd y rownd nesaf yn darparu cymorth pellach i’r cynghorau i helpu i lanhau ein trefi a’n dinasoedd.

Rebecca Pow, Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth y DU

Rydym yn croesawu'r cymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Keep Britain Tidy, fel rhan o’r Tasglu Gwm Cnoi. Mi fydd yr arian yn ein galluogi i brynu pedwar peiriant er mwyn cael gwared ar sbwriel gwm cnoi ar ein strydoedd ac o fewn ein cymunedau. Gobeithiwn yn arw y bydd gwaredu ein strydoedd rhag sbwriel gwm cnoi yn annog ein preswylwyr ledled y fwrdeistref sirol i roi sbwriel yn y bin, lle mae i fod, yn hytrach nag ar y stryd.

Y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd.

Chwilio A i Y