Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn datgelu dyluniadau’r cysyniad ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd ym Mhorthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi dyluniadau sy’n dangos ei uchelgeisiau o ran y modd y gellid defnyddio man agored cyhoeddus yn ardal glannau Porthcawl, a pha gyfleusterau cymunedol newydd y bydd yn ceisio eu datblygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fel rhan o waith adfywio parhaus y dref.

Mae’r cynigion diweddaraf yn canolbwyntio ar ardal adfywio’r glannau, sy’n cwmpasu 32 hectar o fan agored a leolir yng nghyffiniau Llyn Halen, Hillsboro, Parc Griffin, Traeth Coney, y Bae Tywodlyd, y Twyni Creiriol, Trwyn Rhych a nifer o gysylltiadau rhyngddynt, gan gynnwys tir sy’n rhedeg trwy safleoedd y ffair a’r Parc Angenfilod blaenorol.

Mae dyluniadau’r cysyniad yn adlewyrchu nodau ac amcanion Strategaeth Creu Lleoedd y cyngor ar gyfer Porthcawl, yn ogystal ag adborth, awgrymiadau a syniadau a gasglwyd trwy’r ymgynghoriad cyhoeddus eang.

Er bod y cynigion hyn yn rhai enghreifftiol ac yn ddibynnol ar argaeledd ffynonellau cyllido at y dyfodol, maen nhw’n adlewyrchu uchelgeisiau hirdymor y cyngor ar gyfer Porthcawl, ynghyd â’n dymuniad i weithio’n agos ochr yn ochr â phobl leol wrth i ni geisio cyflawni adfywiad sy’n effeithiol, yn realistig ac yn gynaliadwy.

Wrth baratoi’r dyluniadau hyn o’r cysyniad, rydym wedi casglu adborth a nodi barnau preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Roedd hyn yn cynnwys llawer iawn o ymgynghori gyda phobl o bob oedran a chefndir, gan gynnwys plant ysgol a grwpiau a sefydliadau lleol, er mwyn casglu cymaint o safbwyntiau â phosib.

Yn dilyn dadansoddiad gofalus, mae’r barnau a’r syniadau a gasglwyd o’r sesiynau hynny wedi’u darlunio o fewn y cynlluniau hyn ar gyfer y dyluniadau o’r cysyniad, ac rydym yn eu cyflwyno gydag enghreifftiau o gyfleusterau sy’n bodoli eisoes o rannau eraill o’r DU, i roi syniad o sut olwg fyddai ar gyfleusterau tebyg yn y fan hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio:

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld dyluniadau o’r cysyniad ar-lein ar wefan y cyngor, neu trwy alw i mewn i Lyfrgell Porthcawl lle mae copïau ar gael i gael golwg fanylach arnyn nhw.

Chwilio A i Y