Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cynorthwyo masnachwyr ar ôl gorfod cau marchnad dan do oherwydd RAAC

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Siopa Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i fod ar gau er diogelwch y cyhoedd oherwydd problem bosibl yn ymwneud â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn adeiladwaith y to.

Y farchnad dan do yw’r unig adeilad sydd wedi’i gau dros dro, ac ar hyn o bryd mae Canolfan Siopa Rhiw gerllaw yn dal i fod ar agor yr un fath ag arfer.

Mae cau’r farchnad wedi effeithio ar 17 o stondinwyr. Penderfynwyd bod angen ei chau yn dilyn archwiliad gan arbenigwr a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru, dan ganllawiau cenedlaethol newydd gan Lywodraeth y DU. Drwy gydol y broses, mae’r masnachwyr wedi cael gwybodaeth lawn am y sefyllfa, a hefyd cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb er mwyn rhoi cyngor uniongyrchol a oedd wedi’i deilwra ar gyfer pob busnes penodol.

Yn syth ar ôl penderfynu cau’r farchnad dan dro dros dro, sicrhaodd y cyngor bod modd i’r masnachwyr gael gafael ar gyfleusterau storio amgen, yn cynnwys oergelloedd a rhewgelloedd diwydiannol, a gwnaed yn siŵr hefyd bod cymorth o fath arall ar gael i’w helpu i eitemeiddio a symud eu stoc.

Penodwyd swyddogion cyswllt i ryngweithio’n uniongyrchol â’r masnachwyr ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt, ac mae’r cyngor yn ystyried pa gymorth ariannol a all fod ar gael iddynt o ganlyniad i orfod cau’r farchnad dan do dros dro.

Ymhellach, mae’r cyngor wedi cymryd camau i ganslo taliadau rhent (a’u had-dalu pan fo angen) ar gyfer y stondinau dan sylw, ac mae wedi trefnu bod y masnachwyr yn cael eu hesemption’n llwyr rhag talu ardrethi busnes annomestig. Bydd unrhyw daliadau o’r fath a wnaed gan y masnachwyr yn barod yn cael eu dychwelyd.

Yn y tymor hwy, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr Canolfan Siopa Rhiw a landlordiaid canol y dref i ddod o hyd i unedau gwag a allai fod yn addas i’r stondinwyr, er mwyn iddynt allu parhau i fasnachu.

Bydd hyn yn galluogi’r cyngor i ganolbwyntio ar gwblhau gwaith yn y farchnad dan do ynghyd â chynnal archwiliadau manwl fel y gellir gweld beth yw maint y broblem RAAC, deall yn union pa gamau unioni y gall fod angen eu cymryd, a phenderfynu ar yr amserlen debygol.

All Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddim cyfaddawdu pan fo diogelwch y cyhoedd dan sylw, ac fe wnaethom gymryd camau’n ddi-oed cyn gynted ag y cadarnhaodd yr arbenigwr cymeradwy fod yna broblem bosibl gyda RAAC yn nho’r farchnad dan do. Ar yr un pryd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r masnachwyr sydd wedi dioddef yn sgil y datblygiad hwn, ac i ymdrin â’r mater cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y bydd y farchnad dan do yn ddiogel i’w defnyddio unwaith eto.

Rydym yn cydnabod y gall rhai masnachwyr fod â gofynion penodol iawn, gan ddibynnu ar natur eu busnes a’u stoc, felly rydym yn ystyried hyn oll ac yn cynnig cymorth ychwanegol ac arweiniad pwrpasol gan arbenigwyr Cymorth Busnes a thimau diogelwch bwyd, safonau masnach ac iechyd yr amgylchedd yn y Cydwasanaeth Rheoleiddio.

Hefyd, rydym yn ddiolchgar i sefydliadau partner fel Busnes Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth am eu cymorth ymarferol, a hefyd i’r gwasanaeth Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a llesiant i’r rhai y mae’r digwyddiadau hyn wedi effeithio arnynt. Mae’r cyngor yn dal i gydnabod yr anawsterau a’r caledi posibl a allai ddod i ran y masnachwyr yn sgil cau’r farchnad dros dro, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw anhwylustod. Hefyd, rydym wedi ymrwymo i roi diweddariadau pellach, felly cadwch eich llygaid ar agor am ychwaneg o newyddion yn fuan.

Huw David, Arweinydd y Cyngor

Yn amlwg, dyma gyfnod anodd iawn, ond mae’r cyngor wedi gwneud ei orau mewn sefyllfa anodd iawn.

Mae timau economaidd a chyflogadwyedd y cyngor wedi cyfarfod â ni i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’r holl opsiynau, ac rydw i’n gwybod bod pawb yn ymdrechu’n galed i roi cynllun ar waith cyn gynted â phosibl – cynllun a fydd yn diwallu anghenion pob busnes unigol.

Yn ôl Hayley Davies, sy’n rhedeg Tilly’s Rawsome Pet Food ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y