Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cynnig cefnogaeth lawn i weithwyr Zimmer Biomet

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio'r newydd fod Zimmer Biomet yn bwriadu rhoi'r gorau i gynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel 'ergyd drom i'r staff ac i'r economi leol'.

Mae'r busnes dan berchnogaeth Americanaidd ac yn arbenigo mewn cynhyrchu nwyddau meddygol, ac wedi iddo gyhoeddi ei benderfyniad i gau ei safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr i'w weithlu yn gynharach heddiw (dydd Iau, 29 Mehefin), cadarnhaodd y cyngor ar unwaith y bydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bawb y mae'r newydd yn effeithio arnynt.

Mae Zimmer Biomet yn gyflogwr pwysig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'r newydd hwn yn sioc enfawr i weithlu medrus a ffyddlon y cwmni, ac i'r awdurdod lleol hefyd.

Rydym yn awyddus i gynnal cyfarfod brys gydag undebau ac uwch-reolwyr, a byddwn yn cynnig sefydlu hwb cyflogaeth ar safle Zimmer Biomet fel y gall ein Tîm Cyflogadwyedd gynnig cymorth uniongyrchol i'r staff y mae hyn yn effeithio arnynt, a fydd yn pryderu'n arw am eu sefyllfa eu hunain a'u teuluoedd ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gysylltu ar fyrder â Zimmer Biomet er mwyn trafod posibiliadau eraill yn lle'r swyddi a gollwyd.

Mae'r newydd hwn yn ergyd drom i'r staff ac i'r economi leol, ond bydd y cyngor a'i bartneriaid yn cydweithio'n agos dros yr wythnosau a misoedd nesaf ac yn gwneud popeth y gallwn i gynnig cymorth a chefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Cyngor a chymorth

Gall Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr gynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i staff perthnasol drwy gysylltu â:

Ffôn: 01656 815317

Chwilio A i Y