Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau diogelwch yng Ngorsaf Fysiau Maesteg

Mae gorchymyn traffig dros dro, a gyflwynwyd yng Ngorsaf Fysiau Maesteg yn 2022 er mwyn lleihau gwrthdrawiadau a sicrhau diogelwch y cyhoedd, wedi cael ei wneud yn barhaol gan Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r gorchymyn traffig yn gwahardd pob cerbyd, ar wahân i fysiau awdurdodedig, rhag defnyddio’r orsaf fel cylch troi neu ar gyfer dibenion eraill megis parcio, llwytho neu ddadlwytho, codi neu ollwng teithwyr a mwy.

Cyflwynwyd fersiwn dros dro o’r gorchymyn pan godwyd nifer o bryderon diogelwch gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Wedi hynny bu gwrthdrawiad rhwng bws a char oedd wedi parcio, gan ysgogi cwmni First Cymru Buses Limited i ddiddymu ei wasanaeth o’r orsaf am gyfnod byr.

Yn dilyn cyfnod prawf hynod o lwyddiannus, mae’r gorchymyn traffig wedi’i wneud yn barhaol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn yr orsaf fysiau brysur. Yn ogystal â sefydlu rheolau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r orsaf fysiau, rydym hefyd wedi cyflwyno marciau ffordd newydd a llinellau melyn dwbl ar y safle fel bod gyrwyr yn gwybod i beidio mynd yno.

Mae camddefnydd o’r fath yn peryglu diogelwch yr orsaf fysiau, yn arbennig pan fo maes parcio canol dinas am ddim ar gael o fewn Maesteg.

Bydd swyddogion gorfodaeth y cyngor yn parhau i fonitro’r sefyllfa er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynorthwyo i gadw pawb yn ddiogel.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y