Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn croesawu adroddiad arolwg ar wasanaethau ar gyfer plant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu adroddiad yn canolbwyntio ar ei wasanaethau plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru sydd wedi pwysleisio lle mae'r awdurdod yn perfformio'n dda, gan nodi hefyd cyfleoedd lle mae angen gwneud rhagor o welliannau.

Wedi'i gynnal yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r arolwg wedi cadarnhau bod nifer o welliannau wedi'u cyflawni eisoes ers cynnal arolwg blaenorol y llynedd, a bod gan y cyngor gynllun gweithredu parhaus sy'n cefnogi rhagor o ddatblygiadau cadarnhaol.

Mae'n pwysleisio bod rhaid i'r cyngor barhau i gyflwyno'r gwelliannau penodol hyn er mwyn osgoi amrywiaeth yn ansawdd ei wasanaethau ac arfer gwaith cymdeithasol.

Mae hefyd yn cydnabod effaith gyfunol ffactorau cenedlaethol fel y pandemig Covid-19 byd-eang, cynnydd sylweddol mewn galw a'r materion parhaus mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, a sut mae'r rhain yn cael effaith negyddol ar sut caiff rhai o'r gwasanaethau eu cyflwyno.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Mae angen cynnydd cynaliadwy cyflym nawr ar draws ystod o feysydd cyflwyno gwasanaethau os yw'r awdurdod lleol am gyflawni ei fusnes craidd yn gyson, sef lleihau risgiau i blant sydd angen help a diogelwch, yn ogystal â'u llesiant."

"Bydd cymhwyso prosesau sicrhau ansawdd effeithiol yn hanfodol i sicrhau a chynnal gwelliannau, ac i sicrhau bod gwasanaethau plant a theuluoedd cyson, o safon, yn cael eu cyflwyno'n brydlon."

Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad hwn, ac rydym wedi sicrhau arolygwyr y byddwn yn parhau â'r cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud. Mae gwaith helaeth eisoes wedi'i gynnal er mwyn gwella ansawdd cyffredinol ein gwasanaethau ar gyfer plant a’u teuluoedd, ac mae llawer o hyn wedi'i bwysleisio yn yr adroddiad.

Er enghraifft, rydym wedi comisiynu rhaglen sicrhau ansawdd annibynnol i asesu'r cryfderau a'r meysydd i'w datblygu o fewn gwasanaethau plant, ac yn recriwtio gweithwyr newydd yn weithredol, ac yn adleoli staff presennol yn ofalus i gynnig cymorth ychwanegol yn yr ardaloedd sydd dan y pwysau mwyaf. Mae goruchwylio rheolaeth a gwneud penderfyniadau wedi'i atgyfnerthu drwy gynyddu amlder goruchwyliaeth mewn meysydd blaenoriaeth, a'r gwaith o gasglu a chraffu'n well ar ddata gwybodaeth ynghylch perfformiad, a chynllunio gwell i aildrefnu a gwella gwytnwch a chynaliadwyedd y gwasanaeth yn yr hirdymor, hefyd yn cael ei ddatblygu.

Mae'r cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i atgyfnerthu gwytnwch ac effeithiolrwydd cyffredinol ei wasanaethau ar gyfer plant, a byddwn yn parhau i gysylltu'n agos â'r arolygwyr wrth i ni geisio cyflawni rhagor o welliannau

Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y