Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn chwilio am ddarparwyr ar gyfer y cynllun Llety â Chymorth

A allwch chi helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol a byw bywyd llawn ac annibynnol?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl a all gynnig lleoliadau tymor byr i bobl ifanc 16 oed neu hŷn o dan y cynllun llety â chymorth.

Drwy groesawu person ifanc i’ch cartref, gallwch roi cymorth emosiynol a’i helpu i ddysgu’r sgiliau ymarferol bob dydd y bydd arno eu hangen ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Y cyfan sydd arnoch ei angen yw ystafell sbâr ac amgylchedd teuluol diogel, cefnogol ynghyd â'r amynedd i ddysgu sgiliau bywyd syml i’r person ifanc, fel cyllidebu, dysgu coginio a gwneud gwaith tŷ, mynychu apwyntiadau, magu hyder, a dod o hyd i gartref.

Mae bod yn ddarparwr llety â chymorth yn opsiwn arall gwych i’r rhai na allant ffitio maethu fel rhan o’u ffordd o fyw.

Gallwch fod mewn cyflogaeth amser llawn wrth ddarparu llety â chymorth. Yr agwedd bwysicaf yw eich bod yn gallu rhoi gofal i berson ifanc a gweithio fel tîm. Bydd y cyngor yn eich cefnogi chi bob cam o'r ffordd - trwy ddarparu costau cynnal ariannol wythnosol a hyfforddiant llawn drwy gydol y lleoliad.

Gall llety â chymorth fod yn gam hollbwysig i bobl ifanc sy’n trosglwyddo o fod yn y system ofal i fyw yn annibynnol.

Mae'r cynllun eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau pobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai fod yn rhan o'r cynllun hwn.

Mae'n gyfle mor werth chweil i fod yn rhan ohono a gall helpu pobl ifanc i gymryd y cam nesaf i fyd oedolion.

Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi helpu person ifanc i fynd i’r afael â byd oedolion, edrychwch ar ein tudalen am lety â chymorth ar y we, cysylltwch â thîm Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ar 01443 425007 neu ewch i Gwefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y