Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cefnogi clwb rygbi gyda gwelliannau hanfodol i gae pob tywydd

(ch i dd): Richard Underhill, Ysgrifennydd y Clwb, y Cynghorydd Mike Kearn, Dirprwy Arweinydd, Jane Gebbie, Capten y Tîm, Tom Brigs, Arweinydd y Cyngor, Huw David a Chadeirydd y Clwb, Howard Phillips.
Tîm 1af Mynydd Cynffig ar y cae cyn dechrau gêm gartref yn gynharach yn y mis.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu i sicrhau cyllid mawr ei angen er mwyn cefnogi Clwb Rygbi Mynydd Cynffig gyda gwelliannau hanfodol i’w cae rygbi yng Nghaeau Chwarae Croft Goch.

Mae Cronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor wedi cynorthwyo’r clwb gyda chostau gwella’r cae a phrynu offer cynnal a chadw’r cae gyda chyllid ychwanegol i ymgymryd ag arolygon cae.

Wedi’i adnabod fel ‘y Mules’ yn lleol, aeth y clwb i’r afael â hunanreoli’r cae rygbi’n ffurfiol ar ddechrau’r mis, ar ôl cwblhau prydles 10 mlynedd dan y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

Wedi’i sefydlu yn 1897, mae gan Glwb Rygbi Mynydd Cynffig hanes arbennig o feithrin chwaraewyr rhyngwladol, gan gynnwys cyn reolwr tîm Cymru a Llewod Prydain, Alan Phillips, sef llywydd presennol y clwb.

Mae'r clwb yn gartref i lu o dimau lleol, yn amrywio o dîm cyntaf (sydd yn chwarae yn Adran 1 y Gynghrair De-orllewin Genedlaethol), ail dîm a thîm ieuenctid, yn ogystal â thîm merched a rygbi cyffwrdd newydd i bobl hŷn, yn ogystal â thimau iau llwyddiannus, gyda dros ddau gant o chwaraewyr.

O ganlyniad i’r cyllid gan y cyngor, Undeb Rygbi Cymru, Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru a gweithgareddau codi arian y clwb ei hun, mae gwaith gwella sylweddol wedi’u gwneud ar y cae rygbi yng Nghroft Goch mewn prosiect £68,000, a gwblhawyd ym mis Awst eleni. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod system ddraenio newydd ac ail-hadu’r cae.

Mae’r clwb hefyd yn cael cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru a’r cyngor, dan gynllun Digonolrwydd Bwyd Sir Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu prosiect bwyd er budd aelodau iau'r clwb. Mae’r prosiect yn galluogi dros gant o bobl ifanc i fanteisio ar bryd iach, am ddim, bob wythnos yn ystod gwyliau’r haf.

Rydym ar ben ein digon ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid hwn i wella ein cae. Mae’r system ddraenio newydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r chwaraewyr a’r gemau sydd wedi'u trefnu. Gallwn bellach gynnal mwy o gemau a sesiynau hyfforddi yn ystod y gaeaf, yn hytrach na chanslo oherwydd tywydd gwael a chyflwr y cae. Mae’n golygu ein bod yn gallu bod ar agor drwy gydol y flwyddyn er budd ein chwaraeon o bob oed, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cynnal y busnes ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio yn y clwb ac yn cefnogi'r clwb, sy’n cynnig budd sylweddol i’r gymuned gyfan.

Howard Phillips, Cadeirydd y Clwb

Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Chlwb Rygbi Mynydd Cynffig a chyllidwyr eraill i wella’r cae rygbi yng Nghaeau Chwarae Croft Goch. Mae’r clwb wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cyllid hanfodol hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth gyda nhw mewn datblygiadau pellach fel adfer y pafiliwn gyda chyllid ychwanegol a fydd yn cael ei gyflwyno dan ein Cronfa CAT, a fydd yn sicrhau bod yr asedau hyn yn cael eu datblygu ymhellach a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y