Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cefnogi ‘breuder rhyddid’ ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost

Unwaith eto, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Diwrnod Cofio’r Holocost 2024, sy’n canolbwyntio ar y thema ‘Breuder Rhyddid’.

Bydd y Maer, sef y Cynghorydd William Kendall, yn goleuo cannwyll goffa i dalu teyrnged i’r rhai a gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol drwy’r byd.

Am 8pm, nod Sadwrn 27 Ionawr, caiff aelwydydd y fwrdeistref sirol eu hannog i ymuno â’r Maer a phobl ledled y DU i oleuo cannwyll a’i gosod yn ddiogel yn y ffenestr er mwyn cofio’r rhai a lofruddiwyd oherwydd eu hunaniaeth, a hefyd er mwyn gwrthsefyll rhagfarn a chasineb yn y byd sydd ohoni.

Y thema a ddewisodd Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost ar gyfer eleni yw ‘Breuder Rhyddid’. Mae rhai llywodraethau’n erydu rhyddid y bobl a dargedir ganddynt, gan ddangos pa mor frau yw rhyddid, ond hefyd maent yn cyfyngu ar ryddid pobl eraill o’u cwmpas, er mwyn eu hatal rhag herio’r drefn. Er gwaethaf hyn, ym mhob hil-laddiad fe gewch chi bobl sy’n rhoi eu rhyddid eu hunain yn y fantol er mwyn diogelu rhyddid pobl eraill neu wrthsefyll y drefn.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2024 yn cofio 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn erbyn y Watwtsi yn Rwanda. 49 mlynedd ar ôl i’r Holocost ddod i ben ac 19 mlynedd ar ôl yr hil-laddiad yn Cambodia, safodd y byd yn ôl wrth i eithafwyr Hutu chwalu’r rhyddid bregus yn Rwanda, yn dilyn degawdau’n llawn tensiwn a thrais. Daeth hyn oll i’w anterth pan lofruddiwyd mwy na miliwn o bobl Watwtsi mewn cyn lleied â chan diwrnod.

Yn ogystal â goleuo cannwyll goffa, bydd swyddfeydd y cyngor yn cael eu goleuo â golau porffor fel arwydd o barch ac fel ffordd o gofio’r holl bobl sydd wedi dioddef a cholli eu bywydau oherwydd casineb, rhagfarn ac erledigaeth.

Rydw i’n siŵr bod y thema eleni, sef ‘Breuder Rhyddid’, wedi peri i bob un ohonom fyfyrio ar ein dyletswydd fel aelodau o’r gymuned i sefyll gyda’n gilydd yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu, rhagfarn ac allgáu.

Mae hi’n bwysig i bob un ohonom fyfyrio, cofio a dysgu yn sgil y gorffennol, a dyna pam rydym yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn drasig ddigon, nid yw gwrth-Semitiaeth, casineb a hil-laddiad yn gaeth i’r llyfrau hanes – mae’r pethau hyn yn dal i ddigwydd drwy’r byd. Felly, mae angen i bob un ohonom uno a gofyn beth allwn ni ei wneud gyda’n gilydd i wrthsefyll rhagfarn a chasineb o bob math er mwyn creu byd mwy diogel i’r genhedlaeth bresennol ac i genedlaethau’r dyfodol.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Lesiant a Diogelwch Cymunedol

Sefydlwyd Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr 2000, pan gyfarfu cynrychiolwyr o 46 gwlad o bob cwr o’r byd yn Stockholm i drafod agweddau ar yr Holocost, yn cynnwys addysg, dulliau cofio ac ymchwil. Ar ddiwedd y cyfarfod, llofnododd y mynychwyr ddatganiad yn ymrwymo i gofio’r rhai a lofruddiwyd yn yr Holocost.

Hefyd, anogir trigolion y fwrdeistref i ddarllen Saith Datganiad Ymrwymiad Diwrnod Cofio’r Holocost:

  1. Rydym yn cydnabod bod yr Holocost wedi ysgwyd sylfeini gwareiddiad modern. Bydd natur ddigynsail ac erchyll yr Holocost yn para am byth.
  2. Credwn fod yn rhaid i’r Holocost gael lle parhaol yng nghyd-atgofion ein cenedl. Rydym yn anrhydeddu’r goroeswyr sy’n dal i fod gyda ni ac rydym yn ailddatgan ein nodau cyffredin, sef cyd-ddealltwriaeth a chyfiawnder.
  3. Rhaid inni sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn deall yr hyn a arweiniodd at yr Holocost ac yn myfyrio ar ei ganlyniadau. Addawn y byddwn yn cofio’r rhai a erlidiwyd gan y Natsïaid a’r rhai sydd wedi dioddef hil-laddiad o bob math.
  4. Rydym yn gwerthfawrogi’r pethau a aberthwyd gan y bobl hynny a roddodd eu bywydau yn y fantol i ddiogelu neu achub y dioddefwyr – dyma arwydd hollbwysig o ddaioni bodau dynol yn wyneb anfadwaith.
  5. Rydym yn cydnabod bod yr hil ddynol wedi’i chreithio o hyd gan y gred bod hil, crefydd, anabledd neu rywioldeb yn peri bod bywydau rhai pobl yn llai gwerthfawr na bywydau pobl eraill. Bydd hil-laddiad, gwrth-Semitiaeth, hiliaeth, senoffobia a gwahaniaethu yn parhau. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i frwydro yn erbyn yr anfadweithiau hyn.
  6. Addawn y byddwn yn cryfhau ein hymdrechion i hyrwyddo addysg ac ymchwil yn ymwneud â’r Holocost a hil-laddiadau eraill. Gwnawn ein gorau i sicrhau y bydd gwersi’r digwyddiadau hyn yn cael eu dysgu’n llwyr.
  7. Byddwn yn parhau i annog pobl i gofio’r Holocost trwy gynnal Diwrnod Cofio’r Holocost bob blwyddyn. Rydym yn condemnio anfadweithiau ar ffurf rhagfarn, gwahaniaethu a hiliaeth. Rydym yn trysori cymdeithas rydd, oddefgar a democrataidd.

I gofrestru ar gyfer seremoni Diwrnod Cofio’r Holocost, ewch i:

https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/ukhmd/

Chwilio A i Y