Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn aros am ragor o ganllawiau ynglŷn ag adolygu’r terfyn cyflymder 20 milltir yr awr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn disgwyl cael rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r modd y bydd y terfyn cyflymder 20 milltir yr awr yn cael ei adolygu.

Ar ôl inni gael y canllawiau hyn, bydd y cyngor yn cyhoeddi manylion ynglŷn â sut y gall preswylwyr gymryd rhan yn yr adolygiad a chynnig pa ffyrdd a ddylai, yn eu tyb nhw, fod yn rhan o’r broses adolygu.

Daw hyn ar ôl datganiad diweddar yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates gerbron y Senedd, lle amlinellodd gynllun tair rhan – sef gwrando ar farn rhanddeiliaid allweddol, gweithio gyda chynghorau a phartneriaid allweddol i bennu pa ffyrdd y mae angen eu diweddaru ac, yn olaf, rhoi’r newidiadau ar waith.

Gan annerch y Senedd, dyma a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Rydym yn parhau i gredu mai 20 milltir yr awr yw’r terfyn cyflymder cywir mewn mannau megis ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl prysur.

“Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau damweiniau ar ein ffyrdd. Yr hyn rydw i’n ei wneud nawr yw gwrando ar beth mae pobl yn dymuno’i weld yn digwydd ar ffyrdd yn eu cymunedau, gan fwrw ymlaen â mireinio’r polisi a sicrhau bod y cyflymder iawn ar waith ar y ffyrdd iawn.”

Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi llunio’i chanllawiau diwygiedig ar eithriadau i’r cyfyngiad cyflymder 20 milltir yr awr, mae’n bwysig nodi na fydd modd i’r cyngor gymryd rhan mewn unrhyw ddeialog ystyrlon ynghylch a oes angen diwygio rhai ffyrdd, ai peidio.

Hefyd, ar ôl lansio’r cynllun, rhaid deall mai awgrymiadau synhwyrol yn unig a gaiff eu hystyried – awgrymiadau a fydd yn cynnwys rhesymau dilys dros eithrio ffyrdd penodol. Nid dychwelyd at 30 milltir yr awr ar bob ffordd yw’r nod a bydd angen cyfeirio beirniadaeth neu sylwadau cyffredinol ynglŷn â’r polisi cyfyngiad cyflymder at Lywodraeth Cymru, oherwydd ni fydd sylwadau o’r fath yn cael eu cofnodi na’u hystyried yn ystod y broses hon.

Cyn gynted ag y cawn ragor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau gofynion ac amserlen y broses hon, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â sut y gall pobl ddweud eu dweud a chymryd rhan, a’n helpu i ddod o hyd i’r cydbwysedd iawn ar gyfer ein cymunedau lleol.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y