Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor i barhau â'r system bleidleisio bresennol

Bydd system bleidleisio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau fel y mae tan etholiadau lleol 2027 fan leiaf a hynny wedi i'r Cyngor llawn benderfynu peidio â chynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar drosglwyddo i system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. 

System y Cyntaf i'r Felin a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru ond mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddewis y system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy o 2027 ymlaen. 

Byddai’r system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn gofyn i bleidleiswyr osod ymgeiswyr yn ôl trefn eu dewis personol ar y papur pleidleisio. Byddai pleidleiswyr yn nodi cynifer neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y dymunant. Byddai’r cyfrif, sy’n aml yn cymryd dau neu dri diwrnod, yn digwydd mewn rowndiau ac yn seiliedig ar ymgeiswyr yn bodloni ffigwr cwota (wedi’i gyfrifo drwy fformiwla safonol) er mwyn cael eu hethol.

Nodwyd yn yr adroddiad y byddai newid y system bleidleisio i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn gofyn adolygu ffiniau presennol holl wardiau’r fwrdeistref sirol i sicrhau bod o leiaf tri chynghorydd fesul ward, a dim mwy na chwech.

Gofyniad cyfreithiol cyflwyno unrhyw newid yw ymgynghori, a byddai hynny i ddechrau arni yn golygu anfon llythyr i bob aelwyd, gan achosi cost o £25,000 fan leiaf. Oherwydd cymhlethdodau’r broses gyfrif ar gyfer Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, byddai’r cynnydd yn y costau i gwblhau'r cyfrif hefyd yn costio oddeutu £25,000 fesul diwrnod ychwanegol.

Er bod rhai pobl o blaid adfywio’r broses etholiadol, mae consensws amlwg ymhlith aelodau sy’n mynegi nad dyma’r adeg gywir i archwilio newid i’n system bleidleisio.

O ystyried cyd-destun heriau ariannol cenedlaethol ac o ystyried mai dim ond y mis diwethaf y gwnaethom ni bennu’r gyllideb, rhaid i ni barhau i ganolbwyntio adnoddau prin ar wasanaethau’r rheng flaen ar gyfer ein dinasyddion mwyaf bregus, yn hytrach na dod o hyd i gyllideb o £25,000 fan leiaf i dalu am ymgynghoriad ar systemau pleidleisio.

Yn ogystal, mae aelodau wedi codi pryderon ynghylch rhagor o newidiadau i ffiniau wardiau, gan mai dim ond yn 2022 y newidiwyd nhw ddiwethaf. Mae’n werth nodi y gellid adolygu’r cynnig hwn eto yn nhymhorau sydd i ddod yn y Cyngor, os ceir cefnogaeth gan y rhan fwyaf o aelodau etholedig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y