Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor am fod yn gyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am fod yn gyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu er mwyn helpu i annog ychwaneg o bobl i fynd yn ofalwyr maeth.

Crëwyd y rhaglen gan The Fostering Network, sef prif elusen faethu’r DU, ac fe’i datblygwyd er mwyn annog cyflogwyr i gefnogi’r arfer o faethu a hefyd er mwyn cynorthwyo gofalwyr maeth.

Trwy roi polisi Ystyriol o Faethu ar waith, caiff gweithwyr sy’n ofalwyr maeth y cyfle i weithio’n hyblyg pan fo modd, a chânt hyd at bum diwrnod o absenoldeb ‘gofalwr maeth’. Gellir defnyddio’r cyfnod hwn er mwyn helpu’r plentyn i ymgartrefu, er enghraifft, a hefyd ar gyfer mynychu hyfforddiant perthnasol ac ar gyfer argyfyngau a all godi yn sgil eu rôl fel rhiant maeth.

Medd Becky Walsh, sydd wedi bod yn ofalwr maeth ers 17 mlynedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont: “Rydw i’n wirioneddol falch fod cyflogwyr yn ystyried hyn. Mae hi’n bwysig i ofalwyr maeth gael eu cefnogi yn eu rolau.

“Mae cael cyflogwr llawn cydymdeimlad yn golygu bod modd i ofalwyr maeth gael yr hyblygrwydd mae arnyn nhw ei angen i ddiwallu anghenion ein pobl ifanc yn y gymuned ac mae’n ein galluogi i fod y gorau y gallwn fod, fel gofalwyr maeth a hefyd yn ein gweithleoedd.”

Pleser gennym yw cymryd y camau angenrheidiol er mwyn dod yn gyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu, ac rydym yn annog busnesau lleol eraill i wneud yr un peth pan fo modd.

Mae a wnelo’r polisi â chwalu’r myth nad oes gan unigolion yr hawl i weithio os ydyn nhw’n ofalwyr maeth.

Mae angen llu o deuluoedd maeth bob blwyddyn trwy’r fwrdeistref sirol i ofalu am blant o bob oed, ac yn arbennig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phlant ag anghenion ychwanegol. Mae gofalwyr maeth yn cynnig cymorth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc na allan nhw fyw gyda’u teuluoedd biolegol, a hefyd maen nhw’n cynnig esiamplau cadarnhaol a chartref sefydlog, llawn gofal. Trwy roi polisi Cyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu ar waith, ein gobaith yw y byddwn nid yn unig yn helpu’r gweithwyr hynny sy’n ofalwyr maeth yn barod, ond y byddwn hefyd yn annog gweithwyr sy’n ystyried mynd yn ofalwyr maeth i gymryd y cam hwnnw.

Yn ôl Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i Maethu Cymru Pen-y-Bont ar Ogwr, ffoniwch 01443 425007 neu anfonwch e-bost at enquiries@fosterwalesctm.co.uk.

Chwilio A i Y