Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai y cyngor

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo’r Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022 – 2026 a fydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, yn sail i’r strategaeth oedd adolygiad cynhwysfawr o ddigartrefedd sydd wedi pwysleisio angen digynsail am wasanaethau digartrefedd a thai addas.

Fel rhan o’r adolygiad, a wnaed gan ymgynghorydd annibynnol, datgelwyd bod cyfanswm nifer yr ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ddiwedd bob blwyddyn ers 2019 wedi cynyddu’n sylweddol.  Roedd 816 o ymgeiswyr rhwng 2019 - 2020, a rhwng 2020 - 2021 cynyddodd y nifer o 81 y cant i 1,477.  Yn ystod 2021 - 2022, cynyddodd y ffigwr o 45 y cant ymhellach i 2,143. Ar 4 Gorffennaf 2023, roedd 2,629 o ymgeiswyr ar y gofrestr.

Yn ôl ffigyrau eraill, mae’r defnydd o lety dros dro wedi tyfu’n aruthrol mewn cymhariaeth â’r lefelau cyn Covid, gydag aelwydydd yn cynnwys un unigolyn yn cyfrif am gyfran sylweddol o ymgeiswyr.  Mae’r galw uchel am wasanaethau digartrefedd a thai wedi’i gymhlethu gan brinder eiddo preifat sydd ar gael i'w rhentu ar gyfraddau fforddiadwy i'r rheiny sy’n dibynnu ar gymorth gan y Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.

Fis Gorffennaf 2023, cymeradwyodd y Cabinet ymgynghoriad cyhoeddus o 12 wythnos ar y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Rhaglen Cymorth Tai drafft, gydag 81.3 y cant o ymatebion ar-lein yn cytuno â nodau arfaethedig y strategaeth.

Mae ein cynllun pum mlynedd yn mynd i’r afael â’r her bresennol o ddigartrefedd yn mabwysiadu dull amrywiol ond penodol o weithio. Mae’n amrywio o gynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymdeithasol, i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i atal digartrefedd.

Mae ein Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai wedi ystyried pob agwedd at fynd i'r afael â digartrefedd ar draws y fwrdeistref sirol dros y blynyddoedd sydd i ddod, gyda'r nod o wneud digartrefedd yn ddigwyddiad prin, tymor byr ac nad yw wedi’i ailadrodd. Wedi dweud hynny, mae ein strategaeth yn bodoli yn erbyn cefndir o bwysau sylweddol ar gyllidebau, a allai effeithio ar ei chyflawni.

Er yr heriau ariannol hyn, mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn brif flaenoriaeth i'r cyngor. Wedi dweud hynny, mae hon yn flaenoriaeth gyffredin, gyda'r holl wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector yn chwarae rôl, gan weithio gyda’i gilydd i atal digartrefedd. Bydd gweithio mewn partneriaeth wrth galon ein holl waith.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y