Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, o 2022 i 2025, sy’n arddangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.  

Yn dilyn adolygu’r cynllun blaenorol, gan gynnwys cael adborth gan adrannau perthnasol yn y cyngor, un o’r prif lwyddiannau a nodwyd oedd y prosiectau tirwedd sydd wedi’u cyflawni.  

Arweiniodd gweithgareddau gwella bioamrywiaeth yn y safle golchfa glo gynt yng Nghwm Ogwr, Ogmore Washeries, at nodi rhywogaeth newydd - sef y gwenyn Cribwr â Bandiau Brown.

Enghraifft arall yw’r prosiect ‘Dunes 2 Dunes’, a oedd yn cynnwys cydweithrediad rhwng rheolwyr gwarchodfeydd natur, gwirfoddolwyr a thirfeddianwyr i reoli’n gynaliadwy y cynefinoedd ar hyd arfordir Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Ymhlith y cryfderau eraill a nodwyd oedd y ffordd yr oedd staff ledled y cyngor wedi cydweithio i gyflawni amcanion, yn ogystal â’r ffordd yr oedd ystod o adnoddau wedi’u defnyddio’n effeithiol i godi ymwybyddiaeth o wella bioamrywiaeth yn y fwrdeistref sirol.

Ymhlith yr heriau a nodwyd yn yr arolwg - sydd oll wedi’u rheoli yn y cynllun newydd rhwng 2022 a 2025 - oedd y diffyg tystiolaeth ffurfiol ar gyfer y cynnydd oedd wedi’i wneud, yn ogystal ag ar gyfer prosesau sydd wedi’u rhoi ar waith i gyflawni amcanion.

Amlygwyd hefyd fod nifer fechan yr aelodau staff yn y tîm, sy’n uniongyrchol gyfrifol am gyflawni amcanion y cynllun, yn rhwystro lefel y cymorth ecolegol sydd ar gael i’r cyngor.

Mae’r materion a nodwyd wrth adolygu’r Cynllun Bioamrywiaeth gynt wedi cael eu hystyried a’u datrys yn y cynllun newydd ar gyfer 2022 i 2025.

Rydyn ni’n parhau i werthuso a llywio ein gwaith yn briodol er mwyn sicrhau bod safonau’n parhau’n gyson.

Nod y gweithrediadau newydd a diwygiedig yn y cynllun yw parhau i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth a’i gwydnwch ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y