Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn cymeradwyo’r Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2022-23, sy'n cynnwys ystadegau ynghylch nifer yr atgyfeiriadau diogelu oedolion a phlant a dderbyniwyd eleni o gymharu â blynyddoedd blaenorol, sut mae'r cyngor wedi cydweithio â'r bwrdd diogelu rhanbarthol, yn ogystal â'r modelau ymarfer newydd sydd wedi'u rhoi ar waith.

Er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu ar gyfer oedolion a phlant, a'r cynnydd dilynol yn llwyth gwaith y timau gwaith cymdeithasol, mae'r adroddiad yn adlewyrchu sut mae staff yn cael eu cefnogi i barhau i wella a chryfhau trefniadau diogelu – blaenoriaeth a fydd yn parhau ar gyfer 2023 i 2024.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb pan ddaw i blant ac oedolion bregus yn y gymuned, ac mae'r cyngor yn mynd i’r afael yn llawn â’i rwymedigaeth gorfforaethol i ddiogelu unigolion bregus rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.

Er bod yr ystadegau a ddatgelwyd yn yr adroddiad yn dangos cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu o gymharu â blynyddoedd eraill, mae'n galonogol gwybod bod y timau gofal cymdeithasol yn ymateb i'r her ac yn parhau i wella gwasanaethau diogelu.

Hyd yn oed gyda'r pwysau cyllidebol y mae'r cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd, bydd diogelu'n parhau i fod o’r pwys mwyaf i'r awdurdod lleol, gan sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed ar draws y fwrdeistref sirol yn cael eu diogelu'n barhaus.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Chwilio A i Y