Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tîm Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr wrth y llyw i gyflwyno gwasanaethau i bobl ifanc

Mae tîm Cymorth Ieuenctid a thîm Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi uno i hwyluso'r gwaith o gyflwyno canolfan ieuenctid symudol newydd, a fydd yn cynnig gwasanaethau cymorth ieuenctid i gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

Wedi’i hariannu gan y fenter ‘Strydoedd Saffach’, bydd yr uned symudol, liwgar, sy’n cynnwys sgrin ddigidol, seddau cyfforddus, gwres, a lluniaeth ar gyfer pobl ifanc, yn dechrau ar daith o gwmpas y fwrdeistref sirol o 20 Tachwedd, yn canolbwyntio, i ddechrau, ar ardaloedd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, y Pîl, Maesteg a Sarn, er mwyn cynnig lle diogel i bobl ifanc dreulio amser a rhyngweithio â gweithwyr ieuenctid cymwys a phroffesiynol.

Wrth weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Heddlu De Cymru, bydd y ganolfan symudol yn teithio i ardaloedd a nodwyd fel ‘poeth-fannau’ am ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â chysylltu â chymunedau lle mae gan bobl ifanc fynediad cyfyngedig i wasanaethau ieuenctid, os o gwbl.

Ar ôl cael cipolwg ar yr undeb symudol newydd, dywedodd Jacob, sy’n 14 oed ac sy’n dod o Ben-y-bont ar Ogwr:

“Rwy’n hoff iawn o’r bws ieuenctid. Mae’n glud ac yn gynnes, ac mae’n lle gwych i gael sgwrs â'r staff cyfeillgar ac agos atoch chi.”

Rydym ar ben ein digon bod y cyfleuster symudol newydd hwn ar gael i bobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.

Ein nod yw gweithio’n agos â thrigolion, arweinwyr cymunedol, a sefydliadau i nodi materion a phryderon penodol mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chynnig lle diogel, cyfforddus a deniadol i bobl ifanc ryngweithio â staff cymorth ieuenctid proffesiynol.

Y bwriad yw annog pobl ifanc drwy drefnu amrywiaeth o weithgareddau sy’n seiliedig ar faterion a strydoedd drwy gydweithio â phartneriaid fel y Gweilch a Heddlu De Cymru, a chynnig gweithgareddau i fodloni amrywiaeth o ddiddordebau a grwpiau oed, fel chwaraeon, celf a chrefft, gweithdai addysgol, mentora, a llu o bethau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol:

Dywedodd Gareth Prosser, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Heddlu De Cymru: “Mae defnyddio’r cerbyd Gwasanaethau Ieuenctid yn gam cadarnhaol o ran cyflwyno gweithgareddau i bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg gymryd rhan ynddynt. Cafodd y fan ei chaffael drwy broses ariannu 4 Strydoedd Saffach, a thrwy hynny, roeddem yn gallu gweithio â’r cyngor i adolygu a phrynu cyfleusterau cynaliadwy i gefnogi pobl ifanc. Rydym yn gweithio â’r cyngor a phartneriaid eraill ar hyn o bryd i gyflwyno’r gweithgareddau hyn, ac mae hyn yn cynnig hyblygrwydd drwy alluogi timau i fynychu lleoliadau amrywiol ar draws y fwrdeistref sirol ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y dyfodol.”

I ddysgu mwy am yr uned symudol newydd a chlybiau sydd ar gael yn eich ardal chi, dilynwch Dîm Cymorth Ieuenctid y cyngor ar Instagram, X (Twitter gynt) a Facebook, chwiliwch am @bcbcys.

Chwilio A i Y