Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tîm arlwyo Ysgol Gyfun Bryntirion yn ennill gwobr!

Cafodd y tîm arlwyo yn Ysgol Gyfun Bryntirion ei gydnabod am ei wasanaeth rhagorol drwy ennill gwobr ‘Tîm Arlwyo’r Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Gymdeithas Arweiniol ar gyfer Arlwyo mewn Addysg (LACA CYMRU), a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Vale fis diwethaf.

Dywedodd Leanne Rees-Sheppard, sy’n coginio yng nghegin Ysgol Gyfun Bryntirion: “Fel tîm, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael ein henwebu ac yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr ‘Tîm Arlwyo’r Flwyddyn’.

“Ar ôl mynychu cyfarfodydd cyngor ysgol a gwrando ar y disgyblion, roedd yn amlwg eu bod eisiau gweld dewisiadau iachach a mwy cynaliadwy, fel opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion, ar y fwydlen.

"Gan fy mod yn gyswllt rhwng y disgyblion a'r Gwasanaethau Arlwyo, gofynnais a allem dreialu'r cynhyrchion newydd a gynlluniwyd ar gyfer y fwydlen fwyaf diweddar. Gofynnwyd i’n disgyblion Blwyddyn 7 samplu’r bwyd a bu eu hadborth gwerthfawr yn llwyddiannus iawn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r disgyblion eto yn y dyfodol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”

Yn y seremoni wobrwyo, parhaodd y sylw ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda llu o enwebiadau eraill.   Enwebwyd Ysgol Gynradd Notais hefyd ar gyfer ‘Tîm Arlwyo’r Flwyddyn’, y Tîm Rheoli Gwasanaethau Arlwyo ar gyfer ‘Tîm Rheoli’r Flwyddyn’ yn ogystal ag ar gyfer ‘Arloesi’, ac yn olaf, cafodd Emma Bennett, Rheolwr Gweithredol Arlwyo, ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Talent Newydd’.

Dywedodd Louise Kerton, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Arlwyo: “Rwy’n falch iawn o’n gwasanaethau arlwyo am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o gategorïau’r gwobrau yng ngwobrau Rhanbarth Cymru LACA. Roedd yn hyfryd gweld y staff yn cael eu cydnabod am eu holl waith caled – gwaith sy’n sicrhau’r ddarpariaeth gwasanaeth orau bosibl i’n disgyblion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”

Mae’r wobr a gafodd y tîm arlwyo yn Ysgol Gyfun Bryntirion, ynghyd â’r amrywiaeth o enwebiadau eraill ar draws ein gwasanaethau arlwyo, yn adlewyrchu’r ddarpariaeth o ansawdd uchel y mae ein timau’n ei chynnig. Da iawn bawb! Dylech fod yn falch iawn!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Llun: Arweinydd y Cyngor, Huw David, y Cynghorydd John Paul Blundell, y Cynghorydd Ian Spiller, y Cynghorydd Dave Harrison, y Cynghorydd Colin Davies a’r Cynghorydd Anthony Berrow.  Yn y llun hefyd mae staff arlwyo yr ysgol, Agneta Garla a Leanne Rees-Sheppard, Pennaeth Ysgol Gyfun Bryntirion, Mr Ravi Pawar, ynghyd â Louise Kerton ac Emma Bennett o Dîm Gwasanaethau Arlwyo’r cyngor.

Chwilio A i Y