Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Terfynau cyflymder i ostwng o 30mya i 20mya yn dilyn pleidlais gan y Senedd

Mae’r terfyn cyflymder ar nifer o ffyrdd preswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn mynd i gael ei newid o 30mya i 20mya flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r newid fel rhan o gynlluniau newydd i leihau llygredd, gwella diogelwch ar y ffyrdd ac annog pobl i ddefnyddio dulliau trafnidiaeth amgen ar gyfer teithiau byr.

Bydd y cynigion yn effeithio’n bennaf ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl sy’n cwrdd â meini prawf penodol, megis ardaloedd sydd â goleuadau stryd wedi’u gosod 200 llath oddi wrth ei gilydd.

Mae’n dilyn cyfres o gynlluniau peilot a gynhaliwyd o gwmpas Cymru, yn ogystal ag ymchwil sydd wedi cadarnhau bod cerddwyr 40 y cant yn llai tebygol o farw os cânt eu taro gan gar sy’n teithio ar gyflymder o 20mya o’i gymharu â char sy’n teithio ar gyflymder o 30mya.

Mae’r siawns o oroesi i rywun sy’n cael eu taro gan gerbyd sy’n teithio ar gyflymder o 20mya yn 97 y cant, ond mae hyn yn gostwng gyda phob milltir ychwanegol sy’n cael ei hychwanegu at gyflymder y cerbyd.

Gydag ymchwil hefyd yn dangos bod lleihau’r terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl yn achosi i gerbydau ddefnyddio llai o danwydd a hefyd yn lleihau allyriadau’n sylweddol, mae’r cynlluniau’n cael eu cefnogi gan sefydliadau megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, Living Streets Cymru, Sustrans Cymru a Cycling UK Cymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn astudio’r cynigion yn fwy manwl, a bydd yn rhannu mwy o wybodaeth am effaith y newid ar strydoedd a ffyrdd lleol.

Bydd y terfyn newydd yn dod i rym ym mis Medi 2023, cadwch lygaid allan am ragor o fanylion.

Chwilio A i Y