Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tân yng Nghwm Garw’n annog cyngor ‘byddwch yn ddiogel ac adroddwch unrhyw weithgaredd amheus’

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynghori trigolion i ddilyn rheolau syml sy’n helpu i atal y lledaeniad o danau dros yr haf, a gwneud yn siŵr bod unrhyw weithgaredd amheus yn cael eu hadrodd i’r awdurdod.

Cyhoeddir y cyngor ar ôl tân ar fryn uwch ben Pontycymer yng Nghwm Garw, sydd wedi bod yn llosgi ers sawl diwrnod - un o chwe thân mae criwiau Tân ac Achub De Cymru’n mynd i’r afael â nhw ar hyn o bryd.

Mae ffigyrau a gyhoeddir gan wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi datgelu eu bod eisoes wedi ymateb i dros 400 o danau gwair a thanau gwyllt wedi’u cynnau’n fwriadol ers 1 Ebrill, gan gynnwys 75 ohonynt yn ystod cyfnod o saith diwrnod. Mae’r rhain wedi dinistrio miloedd o gynefinoedd naturiol, wedi gadael llwybr o ddifrod sylweddol, wedi bygwth eiddo, ac wedi rhoi bywydau trigolion, yn ogystal â diffoddwyr tân, mewn perygl.

Rydym yn deall bod y tân yng Nghwm Garw mewn lleoliad sy’n beryglus i griwiau weithio ar ôl iddi nosi, ond maent yn defnyddio cymysgedd o dactegau confensiynol, cymorth tactegol yn yr awyr a sgiliau diffodd tân traddodiadol i fynd i’r afael â'r tân. Mae timau llosgi tactegol wedi cael eu dosbarthu fel rhan o’r ymateb, ac mae criwiau hefyd yn gweithio’n agos â’ staff rheoli tir Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ceisio rheoli’r tan a chyfyngu ar y lledaeniad.

Mae ymdrin â sawl tân yn golygu nad oes modd i griwiau fod mewn dau le ar yr un pryd, ac mae hyn yn peryglu bywydau ymhellach. Dyna pam ein bod yn annog trigolion i ddilyn rheolau syml a all helpu i osgoi tanau damweiniol, ac i hefyd gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 i adrodd unrhyw un a all fod yn ceisio cynnau tân yn fwriadol.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Cyngor i drigolion

 

Byddwch yn ystyriol o danau agored 

  • Dylech osgoi taflu sigarennau, matsis, neu unrhyw eitemau fflamadwy eraill mewn mannau gwair.
  • Dylech gael gwared arnynt mewn modd cyfrifol, mewn cynhwysydd pwrpasol. 

 

Peidiwch â gadael tanau heb oruchwyliaeth 

  • Os ydych yn gwersylla, neu’n cael barbeciw, gwnewch yn siŵr bod eich tân wedi’i ddiffodd yn iawn cyn gadael yr ardal.
  • Tywalltwch ddŵr drosto, trowch y lludw ac ail wneud hynny tan nad oes unrhyw golsion yn weddill. 

 

Dylech osgoi llosgi pethau yn yr awyr agored yn ddiangen 

  • Peidiwch â llosgi gwastraff o’r ardd nag unrhyw ddeunyddiau eraill mewn mannau agored.
  • Yn hytrach, ystyriwch ddulliau gwaredu amgen, fel compostio neu ailgylchu. 
  • Dylech osgoi unrhyw danau dan reolaeth yn ystod y cyfnodau hir hyn o dywydd sych.

 

Adroddwch unrhyw weithgareddau amheus 

  • Os ydych yn sylwi ar unrhyw ymddygiad amheus, neu’n gweld rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, cysylltwch â Heddlu De Cymru, neu adroddwch y wybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.
  • Gall adrodd yn brydlon atal digwyddiad a all fod yn drychinebus. 

 

Byddwch yn barod 

  • Cadwch lygad ar y tywydd lleol, yn enwedig rhybuddion o gyfnodau sych a gwres llethol.
  • Dilynwch gyngor a chyfyngiadau a gyhoeddir gan awdurdodau perthnasol mewn perthynas â gweithgareddau awyr agored a diogelwch tân. 

 

Addysgwch blant am ddiogelwch tân 

  • Siaradwch â’ch plant, a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu haddysgu am beryglon chwarae â thân a goblygiadau posibl.
  • Anogwch nhw i adrodd unrhyw bryderon am rannau i oedolyn cyfrifol. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen tywydd poeth ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Chwilio A i Y