Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut y gall busnesau lleol gefnogi cwsmeriaid sydd ag anableddau cudd

Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gofrestru â chynllun sy’n sicrhau bod pobl ag anableddau nad ydynt yn amlwg ar yr olwg gyntaf yn gallu derbyn cymorth a chefnogaeth.

Wedi’i ddylunio i gynnig ffordd anamlwg i bobl adnabod eu hunain fel rhywun a all fod angen cymorth, amser neu gefnogaeth ychwanegol wrth siopa neu ymweld â safle busnes lleol, mae’r cynllun Anableddau Cudd yn darparu cerdyn mae modd ei gario neu ei wisgo fel laniard.

Yn cynnwys motiff blodyn haul amlwg ar gefndir gwyrdd, mae’r cardiau eisoes yn cael eu defnyddio mewn archfarchnadoedd megis Tesco a Sainsburys yn ogystal ag ystod eang o siopau llai.

Gall anableddau cudd gynnwys anawsterau dysgu, problemau iechyd meddwl, anawsterau gyda symud, lleferydd, golwg neu glyw, cyflyrau yn ymwneud â’r ysgyfaint megis asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, a salwch cronig megis methiant arennol, diabetes ac anhwylderau cysgu.

Nid yw bob anabledd yn weladwy, ac nid yw’n amlwg bob amser pan mae angen cymorth ychwanegol o bosib ar rywun.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig ffordd wych o sicrhau y gall pobl sydd angen cymorth ychwanegol ei dderbyn wrth ymweld â siop leol sy’n cymryd rhan, a mawr obeithiaf y bydd rhagor o fasnachwyr a busnesau yn cofrestru gyda’r fenter.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Rhys Goode:

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun, ewch i www.hiddendisabilitiesstore.com

Chwilio A i Y