Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut mae'r cyngor yn cefnogi ac yn ailgartrefu ffoaduriaid

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i ailgartrefu nifer o deuluoedd sydd wedi ffoi o wledydd sy’n profi rhyfeloedd, ac maent bellach yn ceisio adsefydlu mwy.

Yn 2016, addawodd yr awdurdod lleol i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i adsefydlu 20,000 o ffoaduriaid a oedd wedi ffoi rhyfel cartref.

Ar ôl dechrau drwy groesawu chwe theulu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i adsefydlu un ar ddeg o deuluoedd sydd wedi ffoi o Syria, ac maent bellach yn ffynnu yn eu cymunedau lleol. Cyflwynwyd hyn ar y cyd â Chymdeithas Tai Taf, sy’n cynnig cymorth i’r teuluoedd.

Mae Safaa Alawaad ar fin dathlu pum mlynedd yn y fwrdeistref sirol eleni ar ôl iddi symud o Syria yn 2017.

Dywedodd: “Rwyf wir wedi mwynhau bod yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n lle gwych, gyda phobl wych, mae popeth yn wych yma. Byddaf wedi bod yma ers pum mlynedd ar 1 Awst.

“Mae pawb rwyf wedi cwrdd â nhw yma, pobl yn y cyngor yn ogystal â chymdogion, wedi bod yn hynod gyfeillgar ac yn fwy na pharod i helpu.”

Soniodd Safaa hefyd ei bod wedi bod yn ymgymryd â gwersi yn y coleg er mwyn ei helpu i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn ogystal â gwirfoddoli gyda’r British Heart Foundation.

Ychwanegodd: “Mae'r Gymraeg yn iaith anodd iawn, ond rwyf wedi dysgu rhai brawddegau byrion yn Gymraeg drwy’r coleg fel y gallaf gyflwyno fy hun yn Gymraeg.

“Pan fyddaf wedi gorffen fy nghwrs iaith Saesneg, ac yn rhugl, rwyf eisiau dechrau cwrs newydd mewn dylunio mewnol gan ddechrau gyda chymhwyster TGAU ac yna rwyf eisiau symud ymlaen i'r brifysgol.”

Mae gan Safaa dri o blant rhwng 19 a naw mlwydd oed sydd wedi mynychu ysgolion a cholegau lleol yr ardal.

Dywedodd: “Maent wrth eu bodd yn yr ysgol. Mae holl athrawon a staff yr ysgol a'r coleg bob amser yn hael eu cymwynas ac yn barod i fy helpu bob amser.”

Symudodd Diana Alarnaout a’i theulu i’r fwrdeistref sirol o Syria hefyd, ac maent yn bwriadu agor eu siop ddodrefn eu hunain yn yr ardal.

Dywedodd Diana: “Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw. Nid ydym yn cael unrhyw broblemau yma, yn enwedig gartref gan fod popeth mor agos – mae’n gyfleus ar gyfer y coleg a’r ysgol.

“Mae pawb rydym wedi cwrdd â nhw wedi bod yn hyfryd, mae ein cymdogion i gyd yn bobl garedig iawn. Mae pawb rwyf wedi cwrdd â nhw o’r cyngor yn barod iawn i helpu."

Mae gŵr Diana, Nadal, yn gweithio fel gyrrwr danfon hunangyflogedig ar hyn o bryd, yn danfon bwyd i bobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Just Eat a Deliveroo.

Dywedodd: “Mae Nadal yn mwynhau ei waith fel gyrrwr danfon, ond ein nod yw dechrau busnes yn y dyfodol. Rydym eisiau agor siop ddodrefn, yn gwneud llenni a dodrefn. Rydym bellach yn chwilio am siop i ddechrau ein busnes.”

Mae’r cyngor hefyd wedi bodloni'r addewid a wnaeth yn 2021 i adsefydlu tri theulu o Afghanistan gyda’r teulu cyntaf yn cyrraedd y fwrdeistref sirol ddiwedd mis Tachwedd 2021.

Nod Llywodraeth y DU yw adsefydlu oddeutu 5,000 o ffoaduriaid o Afghanistan yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan, a gyhoeddwyd y llynedd, a hyd at 20,000 dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i adsefydlu tri theulu ychwanegol dan naill ai Cynllun Adsefydlu’r DU, Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan neu Bolisi Adleoli a Chymorth ar gyfer ffoaduriaid o Afghanistan.                  

Roeddwn ar ben fy nigon yn gweld llwyddiant ein cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid. Maent wedi setlo yn y fwrdeistref sirol a bellach yn byw bywydau diogel fel rhan o’n cymunedau.

Mae hynny yn sgil y cymorth mae ein staff a'n partneriaid wedi’i gynnig, a gwaith rhagorol yr ysgolion.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Mae’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo’r adroddiad diwygiedig a gyflwynwyd ger ei fron yr wythnos ddiwethaf a fydd yn gweld yr awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun adsefydlu ar gyfer pobl o Wcráin ar ôl i Lywodraeth y DU ei lansio.

Mae pawb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi eu digalonni’n lân gan yr amgylchiadau sy'n datblygu yn Wcráin, ac rwy’n gwybod ein bod ni eisiau creu noddfa yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r sefyllfa’n acíwt ac yn digwydd nawr mewn amser real. Rwy’n sicr y gallwn ddatblygu ar ein henw da iawn o gefnogi pobl mewn argyfwng.

Rydym wedi profi ein bod yn gallu addasu a gwneud lle i bobl sy’n ei chael hi’n anodd. Rwy’n gwybod y gallwn ddechrau rhoi pethau ar waith nawr, fel ein bod yn barod i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn syth pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i weithredu ar ei chynlluniau.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Chwilio A i Y