Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut mae gardd synhwyraidd newydd yn helpu oedolion sy’n dioddef o ddementia

Ar ôl dwy flynedd o gynllunio, codi arian a gwaith caled, mae gwirfoddolwyr a staff yng Nghanolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr wedi datguddio gardd synhwyraidd newydd i gefnogi oedolion lleol sy’n dioddef o ddementia.

Wedi’i lleoli yn y ganolfan adnoddau yn Waterton, cafodd yr ardd ei chynllunio a'i thirlunio gan fyfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr a weithiodd yn agos ar y dyluniad ochr yn ochr ag ymgynghorwyr o Age UK, Age Connects a’r Gymdeithas Alzheimer’s.

Gyda llwybrau llachar o bob lliw yn troelli drwy gymysgedd o welyau blodau a pherlysiau uwch, mae'r ardd wedi’i phlannu’n arbennig gyda mathau penodol o flodau a llwyni wedi’u cynllunio i helpu i ysgogi’r synhwyrau.

Gall ymwelwyr â’r ardd fwynhau mannau tawel, heddychlon i fyfyrio yn ogystal ag ystod o nodweddion dŵr, hwyliau cysgod a waliau bywyd wedi’u gorchuddio â blodau a llystyfiant. Cymerwyd gofal arbennig i sicrhau bod yr ardd yn parhau i fod yn hygyrch, ac mae’n cynnwys dodrefn pwrpasol sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae’r cyfleuster newydd gwych hwn yn helpu oedolion sy’n dioddef o ddementia yn ogystal â phobl ag anableddau dysgu neu gorfforol, ac mae’n benllanw dros ddwy flynedd o ymdrech a gwaith caled. Yn ôl ymchwil, gall bod yn yr awyr agored a symud o gwmpas leihau tensiwn a gorbryder i bobl sy’n dioddef o ddementia, ac mae’r gofod pwrpasol hwn wedi’i gynllunio’n benodol i alluogi pobl i grwydro’n rhydd ac yn ddiogel.

I greu'r ardd, cododd staff a gwirfoddolwyr dros £16,000 drwy amrywiaeth o ffyrdd, a derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar gan deuluoedd y rheini sy’n defnyddio’r ganolfan, yn ogystal â G4S, Rockwool, Clwb Llewod Pen-y-bont ar Ogwr, Tesco ac Asda. Bu trigolion lleol yn helpu hefyd drwy roddi dillad, esgidiau a llieiniau diangen i fanc ailgylchu arbennig sydd wedi’i leoli gyferbyn â siop Lidl ym Mharc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ogystal â’r gwaith a wnaed gan Goleg Pencoed, Age Concern, Age Connect a Chymdeithas Alzheimer’s, cafwyd rhagor o gefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a B-Leaf, a'r ardd yw penllanw’r holl ymdrechion hyn a mwy. Mae eisoes o fudd sylweddol, a hoffwn longyfarch a diolch i bawb a gyfrannodd at helpu i wireddu'r syniad.

Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y