Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu miloedd o dunelli o wastraff

Mae miloedd o dunelli o wastraff yn cael eu hailgylchu bob blwyddyn diolch i drigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer cynllun bag porffor Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r gwasanaeth yn galluogi trigolion i ailgylchu cynnyrch hylendid amsugnol (AHP), gan gynnwys clytiau plant, weipiau, hancesi papur, bagiau stoma, padiau a chlytiau anymataliaeth oedolion, dillad gwely amsugnol, menig plastig a ffedogau tafladwy.

Ar ôl cael eu casglu o ymyl y ffordd, mae bagiau’n cael eu cymryd i’w prosesu ar y safle Nappicycle yn Rhydaman, lle mae’r holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu’n cael eu hadfer. Mae’r ffibrau seliwlos o’r clytiau’n cael eu hailgylchu i fod yn fordiau ffibr a phaneli acwstig, tra bod y plastigau’n cael eu hanfon i’w hail-brosesu a’u hailgylchu ymhellach. Caiff deunyddiau hefyd eu casglu i’w defnyddio ar gyfer adeiladu ffyrdd.

Ers cyflwyno’r cynllun ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017, mae cyfanswm o 5,505 tunnell o wastraff bag porffor wedi’i ailgylchu.

Rydym yn falch iawn o’r gwasanaeth bag porffor sydd wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac, o ganlyniad, wedi gweld miloedd o dunelli o wastraff yn cael eu hailgylchu.

Rwy’n annog pawb nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ac sydd angen cael gwared ar gynnyrch hylendid amsugnol, i gofrestru.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Caiff bagiau porffor eu defnyddio i helpu partneriaid gwastraff y cyngor, Kier, i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ddeunyddiau wrth iddynt deithio o amgylch y fwrdeistref yn casglu gwastraff i’w ailgylchu. Drwy ailgylchu’r cynnyrch hyn, gall trigolion fanteisio i’r eithaf ar y cyfyngiad dau-fag ar wastraff gweddilliol.

Caiff trigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth eu hatgoffa bod bagiau porffor ar gyfer gwastraff AHP yn unig – os bydd y bagiau wedi’u halogi â mathau eraill o wastraff o’r aelwyd, bydd y criwiau’n eu gadael wrth ymyl y ffordd. Dylid rhoi eitemau hylendid menywod mewn bagiau bin gyda gwastraff arall na ellir ei ailgylchu.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal bob pythefnos, a bydd y bagiau porffor yn cael eu casglu ar yr un diwrnod a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu. I gofrestru neu i ganslo’r gwasanaeth, anfonwch e-bost at recyclingandwaste@bridgend.gov.uk neu dewiswch yr opsiwn gwastraff wrth gysylltu â’r prif switsfwrdd.

Os nad yw aelwydydd yn rhoi unrhyw fagiau allan wrth ymyl y ffordd ar dri achos olynol dros gyfnod o chwe wythnos, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad oes arnynt angen y casgliadau mwyach. Fodd bynnag, gallant ail-gofrestru.

Caiff trigolion hefyd eu hatgoffa i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd os nad ydynt wedi gwneud eisoes. Dechreuodd casgliadau ddydd Llun 14 Mawrth, ond gall trigolion gofrestru ar gyfer y cynllun o hyd drwy fynd i wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr.

Cesglir gwastraff gardd bob pythefnos, a bydd casgliadau'n cael eu cynnal tan 18 Tachwedd 2022. Tan ddiwedd mis Mawrth 2023, mae costau’n sefydlog yn £41.01 fesul aelwyd, £36.73 ar gyfer pensiynwyr ac mae sachau ychwanegol yn £5.35.

Chwilio A i Y