Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Siop fwyd newydd i agor ym Mhorthcawl yr wythnos hon

Mae’r siop fwyd Aldi newydd ym Mhorthcawl yn barod i agor yn swyddogol dydd Iau yma (13 Gorffennaf), ac mae tua 45 o breswylwyr lleol wedi llwyddo i ennill cyflogaeth yno.

Mae’r siop wedi ei lleoli yn Salt Lake ym Mhorthcawl, a bydd yn cynnwys dyluniad unigryw, yn cynnwys motiff ‘ton’, ac yn defnyddio deunyddiau pren a chalchfaen nodweddiadol i greu mynedfa nodedig i’r dref.

Mae’r ardaloedd tu allan hefyd wedi eu tirlunio’n sylweddol, ac yn cynnwys meinciau ac enghreifftiau o gelf leol.

Bydd yno hefyd dros 100 o leoedd parcio, yn cynnwys lleoedd parcio wedi’u neilltuo ar gyfer bathodynnau glas a lleoedd parcio rhiant a phlentyn. Bydd hefyd mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan o fewn y maes parcio.

Mae hi’n anhygoel meddwl y bydd y siop yn agor ymhen ychydig ddyddiau. Mae hyn yn ddigwyddiad arwyddocaol iawn ym Mhorthcawl, wrth i’r economi leol a phreswylwyr lleol elwa.

Rwyf hefyd yn sicr y bydd y siop newydd yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y dref, o ganlyniad i’r twf mewn masnach, a braf iawn oedd clywed bod cymaint o bobl leol wedi llwyddo i ennill cyflogaeth yn Aldi.

Roedd cynllun unigryw, o safon uchel, yn amod allweddol drwy gydol y broses gynnig, ac mae’r adeilad yn cyd-fynd yn union â gweledigaeth yr artist, sy’n destament i’r holl waith caled sydd wedi ei gyflawni.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol:

Bydd Côr Meibion Porthcawl yn perfformio yn y seremoni agoriadol am tua 8am.

Chwilio A i Y