Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Siderise yn agor canolfan fenter newydd werth £1miliwn sy’n rhoi Maesteg ar lwyfan y byd

Mae Siderise Insulation wedi agor canolfan fenter newydd werth £1miliwn ar eu safle ym Maesteg sy’n atgyfnerthu ymrwymiad hirdymor y cwmni i’r fwrdeistref sirol yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd gwaith i drigolion lleol.

Symudodd y grŵp i Faesteg yn wreiddiol yn 1991 ac agorwyd y ganolfan newydd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae gan Siderise bresenoldeb byd-eang yn dylunio, cynhyrchu a chyflenwi datrysiadau diogelwch tân sy’n helpu i ddarparu adeiladau saffach ledled y byd.

Mae gan eu cyfleusterau sydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol, ffwrnais brofi tân arbenigol, fydd yn helpu i roi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar lwyfan y byd fel hwb menter diogelwch.

Dywedodd Chris Mort, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Siderise: “Mae agor drysau ein Canolfan Fenter yn nodi cam enfawr ymlaen i Siderise, gan godi ein proffil byd-eang fel gwneuthurwr cynnyrch diogelu bywyd hanfodol diwyd ac ymrwymedig.

“Ein prif egwyddor greiddiol yw ‘uniondeb ym mhopeth a wnawn’ - mae hyn yn golygu bod y cynnyrch rydym yn eu creu a’r gwasanaethau a ddarparwn yn seiliedig ar ymchwil clir a chanlyniadau profedig.

“Rydym hefyd yn gobeithio gallu cynnig i’r diwydiant ehangach ei ddefnyddio yn y pendraw er mwyn cynorthwyo safonau diogelwch tân uchel ar draws y sector ac rydym yn ceisio’r achrediadau priodol i’n galluogi i wneud hyn.” 

Mae hyn yn newyddion gwych i’n cymoedd ac mae’r buddsoddiad anferth hwn gan Siderise yn bleidlais o hyder yng ngweithlu’r fwrdeistref sirol. Gobeithio y bydd yr estyniad hefyd yn arwain at fwy o gyfleoedd gwaith hanfodol i drigolion lleol.

Mae’n braf iawn bod y buddsoddiad yn rhoi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y llwyfan byd-eang a gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o fuddsoddi ac ehangu yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio:

Chwilio A i Y