Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Seremoni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gofio HMS Urge

Bydd cyn-filwyr yn ymgynnull ynghyd â chynrychiolwyr o Gymdeithas y Llynges Frenhinol a'r Lleng Brydeinig Frenhinol y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel am 11:30am 27 Ebrill ar gyfer seremoni i gofio HMS Urge.

Llong ryfel o'r Ail Ryfel Byd, a ariannwyd drwy ymdrechion preswylwyr lleol, oedd HMS Urge. Roedd yn llong danfor Brydeinig dosbarth U a gomisiynwyd ar 12 Rhagfyr 1940.

Dyma'r unig un o longau'r Llynges Frenhinol oedd yn dwyn yr enw Urge, ac fe'i hadeiladwyd yn dilyn apêl gan bobl Pen-y-bont ar Ogwr a'r cyffiniau yn ystod 'Wythnos Genedlaethol Llongau Rhyfel'.

Llwyddodd y preswylwyr i godi tua £300,000, sy'n cyfateb i tua £10m - £12m heddiw - digon i dalu am HMS Urge, yn ogystal â dwy long ryfel arall.

Roedd HMS Urge yn gweithredu ym Môr y Canoldir yn bennaf, a dyna ble suddodd hi'r tancer o'r Eidal, Franco Martelli, a'r criwser ysgafn Giovanni delle Bande Nere, cyn wynebu Vittorio Veneto - llong ryfel o'r Eidal.

Ar 27 Ebrill 1942, gadawodd HMS Urge ei gorsaf ym Malta i fynd i Alexandria yn yr Aifft. Ni chyrhaeddodd yno. Collwyd y llong a'r holl griw.

Yn ddiweddarach, daeth tîm arolwg archaeoleg forol o Brifysgol Malta o hyd i'r llong danfor ddrylliedig, ac fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gydnabod y safle yn swyddogol fel gorffwysfan olaf HMS Urge a'r rhai a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad.

Drwy gydol ei gwasanaeth, byddai criw HMS Urge yn derbyn parseli o fwyd ac eitemau moethus gan bobl Pen-y-bont ar Ogwr, ac roeddynt yn edrych ymlaen at gael diolch i'r preswylwyr gyda gorymdaith drwy'r dref ar ddiwedd eu taith ar ddyletswydd.

Bydd eu haberth yn cael ei anrhydeddu a'i gofio yn y seremoni, lle bydd gwesteion megis Uchel Siryf, Arglwydd Raglaw a Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwylio aelodau o'r lluoedd arfog yn codi a gostwng y lluman gwyn cyn cael eu hannerch gan Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Richard Young.

Bydd hon yn un o'r dyletswyddau olaf y bydd y Cynghorydd Young, a fu hefyd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, yn ymgymryd â nhw fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog yr ardal cyn iddo ymddeol adeg yr etholiad nesaf.

HMS Urge (cr. MOD)

Chwilio A i Y