Saith o fannau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwobr fawreddog y Faner Werdd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 27 Gorffennaf 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch iawn bod saith man gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol wedi ennill Gwobr Faner Werdd uchel ei pharch gan Cadwch Gymru'n Daclus, i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, a'u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.
Yn drawiadol, bydd Amlosgfa Llangrallo yn chwifio ei Baner Werdd yn uchel am y 13eg flwyddyn yn olynol, tra bod Coed Tremaen wedi derbyn y wobr am yr ail flwyddyn yn olynol ac wedi cael canmoliaeth gan y beirniaid am safon uchel eu gwaith mewn cyfnod byr o amser, ar ôl dechrau’r prosiect yn 2019.
Yn ogystal ag Amlosgfa Llangrallo, dyfarnwyd y ‘Wobr Lawn’ hefyd i Barc Gwledig Bryngarw, Parc Slip a Pharc Lles Maesteg, gyda Gardd Farchnad Caerau a Choetir Ysbryd Llynfi yn ymuno â Choed Tremaen fel enillwyr y ‘Gwobr Gymunedol’.
Mae’r Faner Werdd yn wobr a gydnabyddir yn genedlaethol a gyflwynir i fannau gwyrdd sy’n cwrdd â’r amcanion isod:
- Man croesawgar
- Iach a diogel
- Yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda ac yn lân
- Rheoli amgylcheddol
- Bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth
- Cyfranogiad y Gymuned
- Marchnata a Chyfathrebu
- Rheolaeth
Hoffwn longyfarch holl enillwyr gwobr y Faner Werdd a chydnabod ymdrechion pawb sydd wedi chwarae rhan mewn cynnal mannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol.
Fel aelod o grŵp ceidwaid Coed Tremaen fy hun, rwy’n sylweddoli pwysigrwydd mannau gwyrdd i gymunedau lleol gan y gall unrhyw un eu mwynhau.
Mae’n amlwg eu bod yn gallu darparu llawer o fanteision megis gwella eich lles meddyliol a chorfforol yn ogystal â helpu’r amgylchedd. Byddwn yn argymell preswylwyr yn gryf i wneud y mwyaf o’r mannau arbennig hyn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick
Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.
Dywedodd Lucy Prisk, cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus