Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhestr wirio ar gyfer trefnu parti stryd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd gŵyl banc ychwanegol ar ddydd Llun 8 Mai 2023, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i ddathlu coroni'r Brenin rhwng 6 Mai ac 8 Mai 2023.

Cynhelir gwasanaeth coroni Ei Fawrhydi y Brenin ac Ei Mawrhydi y Frenhines Gydweddog yn Abaty Westminster ar ddydd Sadwrn 6 Mai 2023. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi creu canllaw cam wrth gam i helpu trigolion sydd eisiau dathlu'r achlysur drwy gael parti stryd neu ddathliad cymunedol arall.

Mae tudalen partïon stryd a digwyddiadau anfasnachol ar briffyrdd i'w chael ar wefan y cyngor.

Bydd angen i breswylwyr sy'n bwriadu gwneud cais i gau ffordd er mwyn cynnal parti stryd gael llofnod fel cadarnhad gan holl breswylwyr y stryd.

Mae trigolion yn dod ynghyd i drefnu partïon stryd i ddathlu digwyddiadau brenhinol neu ddigwyddiadau cenedlaethol eraill yn draddodiad Prydeinig.

Bydd coroni'r Brenin yn cynnig cyfle ardderchog i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod ynghyd i gynnal dathliad gyda chymdogion.

I fod o gymorth gyda hyn ac i sicrhau bod pobl yn gallu dathlu'r digwyddiad yn ddiogel, mae'r cyngor wedi datblygu'r adnodd newydd hwn i helpu preswylwyr a chymunedau i gynllunio ymlaen llaw.

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David

Chwilio A i Y