Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pwyllgor craffu yn derbyn sicrwydd ynghylch tir datblygu'r glannau

Mae aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi pleidleisio i gefnogi penderfyniad i gymryd meddiant o dir ym Mae Tywodlyd a Pharc Griffin sy'n angenrheidiol i gyflawni'r cam nesaf o adfywio o fewn Porthcawl, ac i ddarparu adroddiadau i'r Cabinet yn amlinellu eu hargymhellion ac awgrymiadau.

Daeth y pwyllgor i'r penderfyniad ar ôl derbyn gwybodaeth bellach ac eglurdeb am bryderon megis a roddwyd ystyriaeth ddigonol i'r prosiect, a ystyriwyd gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a pham fod adfeddiannu'r tir wedi ei gynnal fel proses ar wahân i'r gorchymyn pryniant gorfodol a datblygiad y Strategaeth Creu Lleoedd.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, a oedd yn mynd i'r afael â'r pryderon, y byddai'r adfeddiannu yn galluogi i bron 20 hectar o dir gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion cynllunio fel rhan o adfywio ardal glannau'r dref a bydd yn unol â Chynllun Datblygu Lleol a'r Strategaeth Creu Lleoedd a gymeradwywyd yn ddiweddar.

Dan gynlluniau'r cyngor bydd y safle, sy'n cynnwys parc adloniant, yn cael ei dynodi ar gyfer datblygiadau aml ddefnydd yn cynnwys cynigion manwerthu, masnachol, adloniadol, addysg, tai a hamdden newydd sbon.

Er ei fod yn cynnwys ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, estyniad i Ysgol Gynradd Newton a 900 o dai newydd sydd eu hangen yn ddirfawr ym Mae Tywodlyd, mae'r cynlluniau hefyd yn rhoi pwyslais ar wneud y gorau a chreu man agored cyhoeddus.

Yn ogystal â dyblu maint Parc Griffin o bedwar i wyth hectar, bydd llwybr gwyrdd, hir y cael ei greu i gynnig mynediad pellach i Draeth Coney ble bydd wal gynnal traeth newydd yn cael ei adeiladu, a dynodiad cyfreithiol y twyni hynafol yn cael eu newid fel bod modd amddiffyn a chynnal a chadw'r chwe acer gyfan yn y dyfodol.

Clywodd y pwyllgor y bydd angen yr hen lain fowlio a'r hen gyrtiau tennis ym Mharc Griffin i ddarparu mynediad i gerbydau i ardal yr adfywio, ond bod y cyngor eisoes wedi addo ail agor y llain fowlio yn rhywle arall yn y parc ac i ddarparu cyfleusterau tennis cyfoes, newydd fydd, yn wahanol i'r cyrtiau presennol, yn gallu cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd.

Yn ychwanegol, bydd cyfle i bobl ddweud eu barn ynghylch pa fath o gyfleusterau y bydden nhw eisiau eu gweld fel rhan o'r man agored cyhoeddus, gydag awgrymiadau cynnar yn cynnwys trac feicio heriol, parciau bychan i blant a mwy.

Anerchodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau, a Jacob Lawrence, Prif Swyddog Adfywio, y pwyllgor hefyd ac ateb cwestiynau. Pwysleisiodd y ddau fod yr adfeddiannu'r tir yn digwydd fel mecanwaith i sicrhau bod yr adfywio'n gallu symud ymlaen i'r cam nesaf o'r broses, a fydd yn cynnwys gofyn i bobl am y math o gyfleusterau y maent yn dymuno eu gweld.

Eglurwyd hefyd fod y prosesau ar wahân i adfeddiannu'r tir a'r gorchymyn prynu gorfodol yn angenrheidiol gan eu bod yn cael eu llywodraethu gan wahanol rannau o'r ddeddf ac i osgoi unrhyw ddryswch rhwng y ddau. Cynhyrchwyd y Strategaeth Creu Lle ar wahân er mwyn sefydlu ac amlygu pa rannau o'r tir fyddai ei angen.

Dywedodd Janine: "Mae ein Strategaeth Creu Lle yn ein darparu â phrif gynllun sy'n canolbwyntio ar faterion megis man agored, teithio actif, dod â chanol y dref a glan y môr ynghyd, cartrefi newydd, ysgolion newydd, cyfleoedd hamdden a manwerthu, a llawer mwy.

"Mae gennym weledigaeth glir o le'r ydym eisiau mynd â Phorthcawl, a bydd y cam nesaf yn ymwneud ag ychwanegu'r manylion mewn partneriaeth â'r bobl leol.

"Bydd y datblygiad hwn yn cynyddu'r nifer o fannau agored cyhoeddus yn hytrach na'u lleihau, a thra ei fod yn ffurfio rhan ar wahân o'n strategaeth adfywio, rydym wedi cytuno hefyd i leihau'r nifer o dai a gynlluniwyd ar gyfer Salt Lake ac i greu parc arfordirol newydd a fydd bron yr un hyd â dau gae pêl-droed.

"Mae Porthcawl yn dref glan y môr sy'n esblygu, ac rydym eisiau sicrhau y gall y gymuned dyfu a datblygu mewn modd cynaliadwy. Bwriad yr hyn a wnawn nawr yw rhyddhau camau nesaf yr adfywio, ac rydym wedi ymrwymo'r llwyr i gydweithio â'r gymuned leol ar hyn."

Fel un o drigolion Porthcawl, rwyf wrth fy modd fod yr adfywio mynd rhagddo o'r diwedd wedi sawl blwyddyn o rwystredigaeth. Ar ôl cerdded drwy'r safle cyfan gyda swyddogion wrth law i egluro pa gyfleusterau a datblygiadau newydd all gael eu cyflwyno, wy'n argyhoeddedig bod y cynllun hwn yn cynnig llawer o gyfleoedd i weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid o fewn y gymuned a thu hwnt.

Yn unol â'n Strategaeth Creu Lleoedd, rydym eisiau i bobl leol, sefydliadau a busnesau gyd-weithio â ni mewn partneriaeth glos a chynorthwyo i ddarparu adfywiad a datblygiadau cynaliadwy, a byddwn yn gofyn am farn y trigolion am sut y dylid defnyddio'r man agored yn fuan.

y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y