Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pwyllgor craffu’n ystyried yr adroddiad gwasanaethau cymdeithasol blynyddol

Cafodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfarfod yr wythnos hon (dydd Llun 5 Medi) er mwyn ystyried yr adroddiad blynyddol gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r adroddiad, sy’n cynnwys y cyfnod 2021 – 2022, yn crynhoi cynnydd yr adran dros y flwyddyn ddiwethaf wrth iddi wynebu sawl her a phwysau, ac yn tynnu sylw at feysydd lle mae hi wedi gwneud yn dda a’r rhai lle gellir eu gwella.

Gyda chysylltiadau lleol a rhanbarthol da ar waith rhwng y cyngor a phartneriaid megis y GIG, Heddlu De Cymru, y gwasanaeth prawf a darparwyr gofal, mae’r adroddiad yn pwysleisio hanes cryf gwasanaethau integredig yr awdurdod ar gyfer pobl hŷn, yr ystod o wasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu sydd ar gael, a’r ffaith bod cynllun strategol clir yn ei le ar gyfer cyflawni gwelliannau o fewn y maes gofal cymdeithasol plant.

Mae’n trafod sut mae meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda darparwyr gofal cymdeithasol wedi profi i fod yn destun cryfder drwy gydol pandemig Covid-19, ac yn datgelu sut mae’r adran wedi cynnwys pobl leol i gymryd rhan weithredol mewn dylunio’r gwasanaethau maent yn eu derbyn, yn arbennig mewn meysydd megis anableddau dysgu, y rhwydwaith gofalwyr BING a phlant mewn gofal.

Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod y cyngor, fel nifer o gynghorau eraill yn y DU sy’n ceisio adfer o’r pandemig Covid-19, wedi wynebu heriau ariannol, galw cynyddol am wasanaethau a phroblemau gyda recriwtio a dal gafael ar staff dros y flwyddyn ddiwethaf – mater arbennig o sylweddol a wynebir gan bob cyngor.

Mae’n amlinellu sut mae’r adran wedi cymryd camau gweithredu i wella’i phroses o gynllunio’r gweithlu, gan gynnwys mesurau tymor byr megis defnyddio staff dros dro neu asiantaeth yn ogystal â datrysiadau tymor hwy yn amrywio o gynnydd mewn recriwtio rhyngwladol i’r dull ‘tyfu eich hun’ newydd sy’n ceisio cynnig mwy o gefnogaeth i staff presennol a’u hannog nhw i ffynnu.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod angen gwaith craffu ac adfer ychwanegol yn dilyn arolwg gwerthusiad perfformiad o ofal cymdeithasol plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), ac yn amlinellu sut mae’r cyngor a’i bartneriaid wedi addo ymgorffori canlyniadau’r Adolygiadau Arfer Plant.

Mae’r ffaith bod llawer o ffocws wedi’i roi ar gyflwyno gwelliannau i wasanaethau plant wedi arwain at weithlu ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cymorth a chefnogaeth, a gyda buddsoddiad newydd i gartrefi gofal mewnol a lansiad Tir Môr – cyfleuster ar gyfer oedolion ifanc dros 18 oed – law yn llaw â hybiau diogelu a chymorth cynnar, mae’r adroddiad yn dangos sut mae hyn wedi lleihau’r nifer o blant a phobl ifanc mewn gofal, wedi gwella sefydlogrwydd y lleoliadau presennol, ac yn cyflawni canlyniadau gwell.

Mewn gofal cymdeithasol i oedolion, mae’r adroddiad yn disgrifio sut y gwnaeth lefelau uchel o absenoldebau staff yn ystod y pandemig a llai o oriau gofal yn cael eu darparu gan y sector preifat arwain at y cyngor yn profi anawsterau i fodloni gofynion gofal a chymorth. Mae gwaith ar y gweill ochr yn ochr â’r GIG i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac i barhau i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae amseroedd aros wedi lleihau’n sylweddol drwy fentrau megis therapi galwedigaethol cymunedol, sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl i barhau’n annibynnol yn y cartref am gyfnod hirach, ac mae diogelu oedolion yn parhau’n effeithiol. Bu gostyngiad hefyd mewn amseroedd aros ar gyfer 'trefniadau diogelu ‘wrth amddifadu o ryddid', tra bod cynllun newydd sydd wedi’i gyd-gynhyrchu yn sicrhau bod gwasanaethau anableddau dysgu’n parhau i gael eu llywio gan lais pobl sydd ag anghenion cymorth.

Nodir ymhellach yn yr adroddiad bod y cyngor wedi bwrw ymlaen gyda’r pwyntiau gweithredu a nodwyd gan wiriad sicrwydd a gynhaliwyd yn 2021 gan CIW, a bod hyn wedi cynnwys sefydlu grwpiau i gefnogi recriwtio a chadw’r gweithlu, darpariaeth cymorth ymddygiadol arbenigol i rieni a gofalwyr plant anabl, a chwtogi’r rhestrau aros ar gyfer asesiadau therapi galwedigaethol.

Mae arolygu’r gwasanaethau plant gan CIW ym mis Mai 2022 wedi tynnu sylw at sawl cryfder yn ogystal â meysydd i’w gwella ac o ganlyniad i hyn mynegodd yr arolygaeth ei phryderon difrifol. Roedd y rhain yn cynnwys ymdrechion i sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed, gwelliant i wasanaethau preswyl mewnol, cynnal cysylltiadau cadarnhaol â phartneriaid a lansio cynlluniau datblygu ymarfer newydd.

Mae’r adroddiad yn datgelu bod cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i gyflwyno gwelliannau mewn meysydd megis prydlondeb dogfennau, argaeledd lleoliadau gofal maeth mewnol a chysondeb yr ymarfer a phrydlondeb yr asesiadau, ac adroddir yn ôl ar y cynnydd i CIW.

Bydd sylwadau ac argymhellion y pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol nawr yn cael eu rhoi ymlaen at gyfarfod nesaf y Cabinet lle rhoddir ystyriaeth iddynt ochr yn ochr â’r adroddiad.

Chwilio A i Y