Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiect Ymchwil Ysgol Gynradd Bracla yn cyrraedd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Mae disgyblion Blwyddyn 4 a 5 o Ysgol Gynradd Bracla wedi ymgymryd â phrosiect ymchwil a gyflwynwyd i athrawon dan hyfforddiant, gweithwyr academaidd mewn prifysgolion, a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ym Mhrifysgol Abertawe.  Roedd y prosiect yn rhan o raglen beilot mewn cydweithrediad â’r brifysgol, a ddechreuodd y rhaglen, er mwyn dysgu a chefnogi disgyblion o bob oed i gyflawni ymchwil mesuradwy.

Gan ganolbwyntio ar effaith dysgu yn yr awyr agored, roedd y prosiect wedi ei seilio ar gylch sefydledig o weithgareddau a gwblheir gan y rhan fwyaf o ymchwilwyr sy’n oedolion - sef, cynllunio’r hyn yr hoffent ei ganfod, casglu a dadansoddi data, rhannu casgliadau a gwerthuso’r broses.  Wrth wraidd yr holl gamau hyn, roedd moesegau a ddyluniwyd gan y tîm ymchwil.

Dywedodd Natalie Hunter, arweinydd y prosiect yn yr ysgol: “Mae cynnig cyfleoedd i blant archwilio pethau newydd ac ymgymryd ag ymchwil yn meithrin eu chwilfrydedd ac yn magu sgiliau pwysig megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chyfathrebu effeithiol.  Mae’n hanfodol cydnabod fod plant yn gallu gwneud llawer mwy nag yr ydym yn dueddol o feddwl yn y lle cyntaf.  Gall rhoi cyfle iddynt archwilio testunau amrywiol fod yn fuddiol iawn i'w datblygiad.”

Mae ymchwil yn sgil hanfodol yn yr oes bresennol, ac mae’r prosiect hwn wedi darparu cyfleoedd i blant ddatblygu fel meddylwyr beirniadol, annibynnol, wrth feithrin eu hyder a’u gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Mae’r prosiect wedi bod yn wych ar gyfer ehangu eu hymwybyddiaeth o faterion moesegol, lle nad oeddent wedi dod ar eu traws o'r blaen.

Ychwanegodd yr athro dosbarth, Tracey Hayter

Mae disgyblion yr ysgol eisoes yn manteisio ar eu sgiliau ymchwil newydd drwy ddechrau prosiect newydd - ‘Beth mae bod yn greadigol yn ei olygu yn Ysgol Gynradd Bracla’.  Dywedodd un disgybl fod y prosiect wedi galluogi iddo “gysylltu ag eraill, ac nid y rheiny yn y dosbarth yn unig”, ac ychwanegodd ddisgybl arall bod y prosiect wedi darparu “cyfle i wneud mathau gwahanol o waith”.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Am wych!  Mae’r prosiect yn amlygu pam na ddylwn fyth danbrisio gallu ein disgyblion.

“Mewn amgylchedd priodol, a gyda chefnogaeth angenrheidiol, mae’r dysgwyr hyn wedi dangos fod gan bobl ifanc y gallu i ddysgu sgiliau mawr a chymhleth. 

“Gallwn ddysgu llawer am botensial anghyfyngedig ein pobl ifanc o’r rhaglen beilot a gynigwyd gan Brifysgol Abertawe.  Gobeithiaf yn arw y bydd y plant yn cynnal eu brwdfrydedd dros ddysgu yn y modd hwn ac yn parhau i ddatblygu eu sgiliau. Da iawn, bawb!”

Chwilio A i Y