Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd y Cyngor yn trawsffurfio gofodau gwyrdd cymunedol

Mae Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos ymrwymiad yr awdurdod lleol i wella cysylltedd rhwng trigolion lleol a'r mannau gwyrdd ar garreg eu drws.  

Wedi'i ariannu gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF), bydd y fenter yn adfywio mannau gwyrdd a llwybrau marchogaeth ar draws y fwrdeistref sirol.  Bydd hyn yn cynnwys lleoliadau eiconig fel Parc Bedford, cartref Gwaith Haearn Cefn Cribwr a Frog Pond Wood yn y Pîl, sydd eisoes yn lleoliad i lwybr cerflun Derw rhyngweithiol ar gyfer plant Blynyddoedd Cynnar.

Bydd rhan o'r trawsnewidiad ym Mharc Bedford yn cynnwys 'Design Out Crime' – menter sy'n ymgorffori celf a chyfranogiad cymunedol uniongyrchol mewn ymgais i fynd i'r afael â'r fandaliaeth sy'n digwydd yn aml mewn safleoedd natur.  Mae'r artist enwog, Ami Marsden, sydd wedi'i lleoli yn Abertawe, wedi cydweithio gyda disgyblion Blwyddyn 8 a 9 o Ysgol Gyfun Cynffig er mwyn gweithio ar amrywiaeth o gerfiadau, yn ogystal â brasluniau o gynlluniau, gan ddod â'u creadigrwydd a'u gweledigaeth yn fyw.  Bydd y bartneriaeth greadigol hon, ynghyd ag ysbrydoliaeth gan artist 'guerrilla' lleol anhysbys sydd wedi bod yn darlunio wynebau tebyg i dderwyddon ar y safle, yn dylanwadu ar y murluniau a'r gosodiadau sy'n adlewyrchu treftadaeth, hunaniaeth ac ysbryd unigryw'r gymuned leol.   

Bydd y Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd yn galluogi i Barc Bedford gael ei drawsffurfio, gan gefnogi'r dyheadau am i'r gofod gwyrdd hwn ddod yn lleoliad gwell ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned, hamdden, yn ogystal â dod yn hwb gwaith lles.  Gall teulu, ffrindiau ac ymwelwyr i gyd fwynhau gofod wedi'i adfywhau sy'n hyrwyddo lles a chydlyniant cymdeithasol.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau i fod yn hanfodol yn cefnogi prosiectau sydd o fudd uniongyrchol i gymunedau wrth feithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd ar gyfer preswylwyr. Mae'r prosiect arbennig yma hefyd yn alinio gyda nodau ehangach y cyngor i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chreu ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth ymysg preswylwyr.

Mae'r cydweithrediad yma rhwng Ami Marsden a myfyrwyr o Ysgol Gyfun Cynffig wir wedi dod â lefel newydd o greadigrwydd ac ysbryd cymunedol i Barc Bedford. Rydym yn ddiolchgar am y cymorth gan y Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n caniatáu i ni wireddu ein gweledigaeth a chreu gofodau cynhwysol a llewyrchus i bawb.

Rydym yn edrych ymlaen at gael parhau i gydweithredu gyda phreswylwyr, artistiaid a rhanddeiliaid er mwyn gwella mannau gwyrdd y fwrdeistref sirol ymhellach a hyrwyddo lles ei chymunedau.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae Gwirfoddoli Mannau Gwyrdd yn ganolog i'r ymdrechion cyfredol i ddatblygu'r ardal, gyda gwirfoddolwyr yn cwrdd yn wythnosol ar y safle.  Os hoffech chi gymryd rhan, yna cysylltwch os gwelwch yn dda â greenvolunteer@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 815 737

Chwilio A i Y