Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiect gardd gymunedol Tŷ Pen y Bont yn addo dyfodol ffrwythlon

Roedd Medi 29 yn nodi agoriad ffurfiol prosiect cymunedol Tŷ Pen y Bont, menter sy'n cynnig digonedd o gyfleoedd i bawb sy'n cymryd rhan.  Yn bresennol yn y lansiad oedd aelodau'r Senedd Huw Irranca-Davies a Sarah Murphy, yn ogystal â'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, a agorodd yr ardd yn swyddogol.

Mae'r ardd gymunedol yn brosiect ar y cyd rhwng Hyb Cymunedol Tŷ Pen y Bont a Baobab Bach, sefydliad sy'n cysylltu â sefydliadau lleol eraill a gwirfoddolwyr i greu pantris cymunedol.  Eu nod yw hyrwyddo lles meddyliol, tra'n cefnogi'r amgylchedd a dileu tlodi bwyd. 

Dywedodd Alison Westwood, Cyfarwyddwr Baobab Bach: "Mae'r ardd gymunedol yn Nhŷ Pen y Bont yn enghraifft wych o sut y gall sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth gyflawni llawer iawn i'r gymuned. Mae'r ardd eisoes wedi darparu cyfle gwirfoddoli gwych, gyda gwirfoddolwyr yn mwynhau gweithio'n rheolaidd yn yr ardd a chynhyrchu bwyd sy’n cael ei ddosbarthu trwy Bantris Cymunedol Baobab Bach. Mae'r ardd hefyd wedi helpu i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, gyda dau Swyddog Prosiect Tyfu rhan-amser bellach yn gallu addysgu, arwain, cefnogi a gweithio ochr yn ochr â'n gwirfoddolwyr.

"Bydd yr ardd hon yn dod yn fwy cynhyrchiol dros amser a bydd yn parhau i gefnogi sefydliadau lleol sy'n gweithio i wella diogelwch bwyd, gan gynnwys y Banc Bwyd a Baobab Bach. Rydym ni yn Baobab yn gyffrous am y potensial y mae'n ei ddarparu ar gyfer ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned, nid yn unig o ran darparu amgylchedd gwych i wella eu llesiant trwy weithio gyda’i gilydd yn gymdeithasgar yn yr ardd, ond trwy roi'r sgiliau iddynt dyfu eu cynnyrch eu hunain.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu'r prosiect hynod lwyddiannus hwn a chynnwys mwy o sefydliadau ac aelodau o'r gymuned."

Ychwanegodd Scott Pickrell, Rheolwr Cyfleoedd yn ystod y Dydd: "Rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd wedi clywed y dywediad 'rydych chi'n medi'r hyn rydych chi'n ei hau'! Ac mae digon o hau a medi wedi bod yn digwydd yn ddiweddar yn Hyb Cymunedol Tŷ Pen y Bont gyda menter gyffrous dan arweiniad Baobab Bach ar ffurf yr ardd gymunedol.

"Mae prosiectau o'r math hwn yn achubiaeth i deuluoedd ar draws y rhanbarth.  Mae'r mentrau hyn yn darparu adnodd cynaliadwy sydd yn ei dro yn cynnal llawer o deuluoedd ar yr adeg anodd hon."

Aeth Sharon Gronland, Swyddog Datblygu Mynediad Cymunedol yn ei blaen i ddweud: "Er mai dim ond y llynedd y dechreuodd y prosiect, rydym wedi llwyddo i gynhyrchu letys a gafodd eu rhannu rhwng pantris y Pîl a Lewistown. 

"Dyma ddechrau’r gwaith o ddarparu ystod eang o gynnyrch ffres sy'n cael ei dyfu a'i rannu'n lleol.

"Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i baentio ffensys, plannu a chynnal a chadw'r ardd - nid oes angen profiad garddio gan fod digon o gyfle i ddysgu sgiliau newydd."

Mae rhai o'r gwirfoddolwyr wedi esbonio mai'r hyn sy’n apelio atynt yw’r cyswllt â natur.  Maent yn mwynhau bod yn yr haul a’r awyr iach, a gofalu am y bywyd gwyllt a'r planhigion, yn ogystal â gweithio gyda'i gilydd yn y gofod hwn, sy'n fach, ond sy'n cynnig cymaint.  Ychwanegodd un gwirfoddolwr, "Rwyf wir yn mwynhau gweithio yn yr ardd yn Nhŷ Pen y Bont; Mae'n caniatáu i mi barhau i wneud yr hyn rwy'n ei garu, ac mae'n helpu'r gymuned hefyd."

Am gyfle gwych i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect gardd gymunedol. Mae'n cynnig cymaint o fanteision, yn amrywio o hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect, hebddynt ni fyddai'r 'had' hwn ar gyfer y dyfodol wedi cael ei blannu. Rwy'n gyffrous iawn am y camau y mae'r fenter hon yn addo eu cymryd, a'r holl fywydau y bydd yn cael effaith gadarnhaol arnynt.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Nodwch fod diolch arbennig yn cael ei roi i:

Pantris Cymunedol Baobab Bach am arwain y prosiect; gwirfoddolwyr am gefnogi a thyfu llysiau yn yr ardd gymunedol yn Hyb Cymunedol Tŷ Pen y Bont; Gwasanaethau Adeiladu D + M a brynodd y twnnel polythen; Adeiladwyr ASW a gododd y twnnel polythen; Helen o'r Edible Food Forest;  y Gwasanaeth Pobl Hŷn a’r Gwasanaeth Dydd Anableddau Dysgu, wedi'u lleoli yn Hyb Cymunedol Tŷ Pen y Bont; Tricia o'r Banc Bwyd; Clwb Rotari Pen-y-bont ar Ogwr am brynu sied ardd; Y tîm Iechyd Meddwl am yr offer garddio; Rachel Lovell o Cymoedd i'r Arfordir; Tîm Cynnal a Chadw Tesco; Tom Noble am helpu i adeiladu bwrdd eginblannu.

Chwilio A i Y