Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Promenâd y Dwyrain yn ail-agor ym Mhorthcawl wrth i'r gwaith adfywio barhau

Mae gwaith ar y cynllun gwerth £6.4m, i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd a chynnydd posibl yn lefelau'r môr, yn mynd rhagddo'n dda, ac yn ddiweddar, agorwyd Promenâd y Dwyrain ar ei newydd wedd.

Mae'r arbenigwyr adeiladu, Knights Brown, wedi trawsnewid ardal y promenâd i fod yn ardal hygyrch, gwastad, gyda phlanwyr a gwell amddiffynfeydd llifogydd sy'n cyd-fynd â'r dyluniad cyffredinol rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney.

Bydd cam nesaf y gwaith yn ymestyn i Fae Tywodlyd a chyn belled â Rhych Point, lle bydd gwaith amddiffyn twyni ychwanegol yn cael ei ddiweddaru.

Mae llawer o'r gwaith wedi'i ganolbwyntio ar Forglawdd eiconig y Gorllewin. Gan fod strwythur mewnol y morglawdd, sy'n 200 mlwydd oed, yn cynnwys ei graidd coed gwreiddiol, roedd angen gwneud llawer o waith adnewyddu a diweddaru arno er mwyn sicrhau ei fod yn gallu parhau i wrthsefyll yn erbyn y llanw a thywydd garw o’r môr.

Mae'n braf gweld ardal glan y môr yn dechrau elwa o’r gwelliannau hyn.

Ariannwyd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.

Ar ôl gorffen, bydd y gwaith yn ategu ac yn gwella datblygiadau adfywio pellach, gan gynnwys yn Llyn Halen a Cosy Corner, wrth ddiogelu dros 500 o gartrefi, 170 o fusnesau ac asedau ac isadeiledd gwerth miloedd o bunnoedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr:

Chwilio A i Y