Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Poster buddugol disgybl ysgol i arwain ymgyrch gwrth-sbwriel

Bydd dyluniad poster disgybl o Ysgol Gynradd Plasnewydd yn cael ei greu’n arwydd i'w arddangos ar finiau a pholion golau stryd ledled Maesteg, fel rhan o ymgyrch gwrth-sbwriel newydd.

Roedd Harri Evans wedi creu’r poster buddugol fel rhan o’r ymgyrch ‘Maesteg, Ei Charu a’i Chadw’n Lân’, prosiect sydd wedi’i gynnal mewn wyth ysgol yn yr ardal leol. 

Mae poster y bachgen naw mlwydd oed yn cynnwys Neuadd y Dref Maesteg, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, a’r Afon Llynfi, gyda neges glir i roi sbwriel yn un o finiau’r drefn yn hytrach na thaflu sbwriel. Mae tri bin ar ddeg wedi’u gosod yn y dref, pob un gyda nodwedd ‘ailgylchu deuol’, fel rhan o ymgyrch beilot i gynyddu cyfraddau ailgylchu.

Yn ystod y prosiect 10 wythnos o hyd hwn, aeth plant ati i gymryd rhan ran mewn gweithdai rhyngweithiol wedi’u cyflwyno gan ADA Recycling, yn ogystal â gweithdai gwyddonol a chodi sbwriel wedi’u trefnu gan NatureQuest.

Dywedodd Tony Davies o ADA Recycling: “Mae’r ymgyrch Ei Charu a’i Chadw'n Lân wedi bod yn llwyddiant aruthrol yn y fwrdeistref sirol, ac mae wedi bod yn help mawr wrth fodloni targedau ailgylchu.

“Mae wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg ysgolion, sy’n llawn cyffro o gymryd rhan. Rydym yn cael ymateb cadarnhaol bob tro, ledled y sir.”

Yr ysgolion a oedd wedi cymryd rhan yn y prosiect diweddaraf oedd Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Nantyffyllon, Plasnewydd, y Santes Fair a Sant Padrig ac Ysgol Cynwyd Sant.

Erbyn hyn, Maesteg yw’r chweched ardal o fewn y fwrdeistref sirol i gymryd rhan yn y prosiect Ei Charu a’i Chadw’n Lân poblogaidd hwn, ac mae ymateb ein hysgolion wedi bod yn wych.

Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a gymerodd rhan ac am greu dyluniadau mor arbennig. Edrychwn ymlaen at weld y poster buddugol yn ymddangos ledled y dref, ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog yr holl drigolion ac ymwelwyr i roi gwastraff yn y bin.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Yn flaenorol, mae’r ymgyrch ‘Ei Charu a’i Chadw’n Lân’ wedi’i gynnal ym Mhorthcawl, Bracla, Cwm Ogwr, Cwm Garw a’r Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr.

Mae’r ymgyrch yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chyllid gan Cadwch Gymru’n Daclus o’r Grant Caru Cymru, gyda chyfraniadau gan Gyngor Tref Maesteg a Chyngor Llangynwyd Canol.

Chwilio A i Y